36.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(2)—
(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor(2), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, ”;
(b)hepgorer is-baragraff (b).
(3) Yn erthygl 4(1)—
(a)yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;
(b)yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.
(4) Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
OJ Rhif L 340, 13.12.2012, t. 29.