RHAN 5Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010I136

1

Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010106 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2(2)—

a

yn lle is-baragraff (a) rhodder—

a

Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor107, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,

b

hepgorer is-baragraff (b).

3

Yn erthygl 4(1)—

a

yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;

b

yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.

4

Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.