Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

4.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb y Cyngor” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(2)”.

(3Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—

(c)unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(3),.

(1)

O.S. 2002/3188 (Cy. 304), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 125, 21.5.2009, t. 75.

(3)

O.S. 2014/1663, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.