Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

8.—(1Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—

(A1) Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.

(3Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—

5.(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—

(a)Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(2);

(b)Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001(3);

(c)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(4);

(d)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(5);

(e)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(6).

(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7).

(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

(1)

O.S. 2009/995 (Cy. 81), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

1994/2716, a ddiwygiwyd gan baragraff 233(1) o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25); O.S. 1996/525; 1997/3055; 2000/192 a 1973; 2003/2155; 2005/3389; 2006/1282; 2007/1843 a 3538; 2008/2172; 2009/6, 1307, 2438 a 3160; a pharagraff 4(1) o Atodlen 11 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); ac a ddirymwyd (o ran Cymru a Lloegr) gan O.S. 2010/490.

(3)

O.S. 2001/1754, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/77 a 1842; a 2010/1513.