NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) er mwyn ymestyn cwmpas yr eithriadau i’r cyfraddau sy’n gymwys i drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch a ddarperir gan baragraffau 7 ac 16.

Mae paragraff 7 yn darparu nad yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prif fuddiant y mae’r prynwr yn ei gaffael yn fuddiant ychwanegol yn ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa. Gall trafodiad o’r fath godi pan geir trosglwyddiad ecwiti gan un o gydberchnogion yr annedd. Mae paragraff 16 o Atodlen 5 i’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth gyfatebol pan fo’r prynwr yn caffael nifer o anheddau fel rhan o un trafodiad.

Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraffau 7 ac 16 er mwyn ymestyn cwmpas yr eithriadau. Mae’r diwygiadau yn sicrhau bod prynwr yn gallu dibynnu ar yr eithriadau a ddarperir gan baragraffau 7 ac 16 mewn achosion pan fo’r prynwr hwnnw yn caffael prif fuddiant mewn eiddo ac—

a

yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, bod priod neu bartner sifil y prynwr yn berchen ar brif fuddiant yn yr un annedd; a

b

mai’r annedd honno fydd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.