xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Gwnaed
5 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym
6 Rhagfyr 2018
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1).
Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 33(4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2. Y terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2016-2020 yw 10% o’r gyllideb garbon.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol ag adran 33(4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae adran 33 yn darparu mai cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod yw swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, plws unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif, a minws unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif yn ystod y cyfnod.
Mae adran 33(4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod cyllidebol.
Mae rheoliad 3 yn gosod terfyn ar nifer yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2016-2020, sef terfyn o 10% o’r gyllideb garbon.
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.