NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol ag adran 33(4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae adran 33 yn darparu mai cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod yw swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, plws unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif, a minws unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif yn ystod y cyfnod.

Mae adran 33(4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod cyllidebol.

Mae rheoliad 3 yn gosod terfyn ar nifer yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod cyllidebol 2016-2020, sef terfyn o 10% o’r gyllideb garbon.

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.