xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

RHAN 2LL+CGofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol

Gofynion mewn perthynas â darparu gwasanaeth maethu’r awdurdod lleolLL+C

3.  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Cynnwys y datganiad o ddibenLL+C

4.  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddibenLL+C

5.—(1Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol—

(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,

(c)rhieni unrhyw blentyn o’r fath,

(d)rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(e)personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

(5Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwellaLL+C

6.—(1Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol,

(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)rhieni maeth,

(d)personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol, ac

(e)unrhyw awdurdod ardal,

ar ansawdd y gwasanaeth.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleolLL+C

7.—(1Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.

(2Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i Weinidogion Cymru—

(a)o enw’r person a benodir yn rheolwr,

(b)o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith,

(c)os bydd y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr yn peidio â rheoli gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwrLL+C

8.—(1Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 29(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwrLL+C

9.—(1Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—

(a)yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(2Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhan 11 (dyletswyddau rheolwyr awdurdodau lleol).

(3Os bydd gan y darparwr awdurdod lleol reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhan 11, rhaid i’r darparwr gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.

(4Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnauLL+C

10.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y polisïau aʼr gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)diogelu (gweler rheoliad 20),

(b)defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 21),

(c)bwlio (gweler rheoliad 24),

(d)absenoldeb (gweler rheoliad 25),

(e)meddyginiaeth (gweler rheoliad 26 (mynediad i wasanaethau iechyd)),

(f)cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 30),

(g)disgyblu staff (gweler rheoliad 32),

(h)cwynion (gweler rheoliad 39),

(i)chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 40),

(j)cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 45).

(2Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle syʼn rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.

(5Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd gonestrwyddLL+C

11.  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol weithredu mewn ffordd agored a gonest gydag—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ganddo,

(b)rhieni unrhyw blentyn o’r fath,

(c)rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(d)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)