RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu gofal a chymorth
Gwybodaeth am y gwasanaeth etc.12
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
2
Rhaid iʼr canllaw—
a
cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn aʼi ddiweddaru fel y bo angen,
b
bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant (o bob oedran a dealltwriaeth) ac oedolion,
c
cael ei roi i—
i
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr,
ii
unrhyw rieni maeth a darpar rieni maeth,
iii
yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod hwnnw, a
d
cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddaiʼn anghyson â llesiant y plentyn.
3
Rhaid iʼr canllaw gynnwys y canlynol—
a
crynodeb o’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid i’r darparwr awdurdod lleol eu rhoi yn eu lle o dan reoliad 10(1)(a), (b), (c), (d), (e), (h) a (j),
b
gwybodaeth am sut i wneud cwyn,
c
gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli annibynnol i blant syʼn derbyn gofal gan awdurdod lleol,
d
gwybodaeth am rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru13.
4
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.