12.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
(2) Rhaid iʼr canllaw—
(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn aʼi ddiweddaru fel y bo angen,
(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant (o bob oedran a dealltwriaeth) ac oedolion,
(c)cael ei roi i—
(i)unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr,
(ii)unrhyw rieni maeth a darpar rieni maeth,
(iii)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod hwnnw, a
(d)cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddaiʼn anghyson â llesiant y plentyn.
(3) Rhaid iʼr canllaw gynnwys y canlynol—
(a)crynodeb o’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid i’r darparwr awdurdod lleol eu rhoi yn eu lle o dan reoliad 10(1)(a), (b), (c), (d), (e), (h) a (j),
(b)gwybodaeth am sut i wneud cwyn,
(c)gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli annibynnol i blant syʼn derbyn gofal gan awdurdod lleol,
(d)gwybodaeth am rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru(1).
(4) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru gan adran 72 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14).