xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
13. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn rhoi gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy—
(a)yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn, a
(b)mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud a chymryd rhan mewn penderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
(2) Rhaid iʼr wybodaeth a ddarperir fod ar gael mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant o bob oedran.
(3) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 14 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
15. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol fonitro cydymffurfedd y rhieni maeth â gofynion y cytundeb gofal maeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 15 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod anghenion iaith plant yn cael eu diwallu.
(2) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar syʼn angenrheidiol i blant i hwylusoʼr ffordd y maent yn cyfathrebu ag eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 16 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—
(a)parchu preifatrwydd ac urddas y plentyn,
(b)parchu hawliauʼr plentyn i gyfrinachedd,
(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth y plentyn, a
(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel yʼu diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1)) y plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 17 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
18. Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 18 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)