RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol - diogelu

Diogelu – gofynion cyffredinol19

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli ganddo yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth15, esgeulustod16 a thriniaeth amhriodol.

Polisïau a gweithdrefnau diogelu20

1

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

a

ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

b

ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

2

Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

3

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod ei bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.

4

Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

a

gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,

b

cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,

c

gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a

d

cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol21

1

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.

2

Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu mewn ffordd syʼn cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal plentyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

a

yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir iʼr plentyn neu i bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a

b

yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.

3

Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth gael eu hyfforddi mewn unrhyw ddulliau rheoli neu atal sydd iʼw defnyddio.

4

Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth—

a

gwneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad pan ddefnyddir rheolaeth neu ataliaeth, a

b

hysbysu’r darparwr awdurdod lleol am unrhyw ddigwyddiad o’r fath o fewn 24 awr.

5

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan rieni maeth yn cael ei chyflawni yn unol âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau hyn.

6

At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neuʼn atal plentyn os ywʼr person hwnnw—

a

yn defnyddio, neuʼn bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y maeʼr plentyn yn ei gwrthsefyll, neu

b

yn cyfyngu ar ryddid symud y plentyn, pa un a ywʼr plentyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol22

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau nad yw rhieni maeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn.

Amddifadu o ryddid23

Ni chaniateir amddifadu plentyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Polisi a gweithdrefnau ar fwlio24

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi yn ei le ar atal bwlio a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Gweithdrefnau pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd25

Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod gweithdrefn i’w dilyn pan yw unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth gan y darparwr yn absennol heb ganiatâd.