xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 5LL+CGofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol - diogelu

Diogelu – gofynion cyffredinolLL+C

19.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli ganddo yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth(1), esgeulustod(2) a thriniaeth amhriodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Polisïau a gweithdrefnau diogeluLL+C

20.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod ei bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.

(4Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,

(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,

(c)gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a

(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 20 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodolLL+C

21.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.

(2Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu mewn ffordd syʼn cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal plentyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir iʼr plentyn neu i bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a

(b)yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.

(3Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth gael eu hyfforddi mewn unrhyw ddulliau rheoli neu atal sydd iʼw defnyddio.

(4Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth—

(a)gwneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad pan ddefnyddir rheolaeth neu ataliaeth, a

(b)hysbysu’r darparwr awdurdod lleol am unrhyw ddigwyddiad o’r fath o fewn 24 awr.

(5Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan rieni maeth yn cael ei chyflawni yn unol âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau hyn.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neuʼn atal plentyn os ywʼr person hwnnw—

(a)yn defnyddio, neuʼn bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y maeʼr plentyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)yn cyfyngu ar ryddid symud y plentyn, pa un a ywʼr plentyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 21 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforolLL+C

22.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau nad yw rhieni maeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 22 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Amddifadu o ryddidLL+C

23.  Ni chaniateir amddifadu plentyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 23 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Polisi a gweithdrefnau ar fwlioLL+C

24.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi yn ei le ar atal bwlio a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 24 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefnau pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâdLL+C

25.  Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod gweithdrefn i’w dilyn pan yw unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth gan y darparwr yn absennol heb ganiatâd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 25 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am y diffiniad o “camdriniaeth”.

(2)

Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am y diffiniad o “esgeulustod”.