Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol i sicrhau mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill

Mynediad i wasanaethau iechyd

26.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu iechyd a datblygiad plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(2Yn benodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth—

(a)yn cofrestru pob plentyn ag ymarferydd cyffredinol,

(b)yn darparu i bob plentyn fynediad i unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, optegol, nyrsio, seicolegol a seiciatrig y mae eu hangen ar y plentyn,

(c)yn darparu i bob plentyn unrhyw gymorth, cymhorthion a chyfarpar unigol y mae eu hangen ar y plentyn o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd ganddo, a

(d)yn darparu i bob plentyn ganllawiau, cymorth a chyngor ynghylch iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd syʼn briodol i anghenion a dymuniadauʼr plentyn.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â rhoi meddyginiaethau gan rieni maeth.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

27.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cyrhaeddiad addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth yn cael ei hybu.

(2Yn benodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)sefydlu gweithdrefn ar gyfer monitro cyrhaeddiad addysgol, cynnydd a phresenoldeb yn yr ysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth,

(b)mewn perthynas â phlant oedran ysgol sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth, sicrhau bod rhieni maeth yn hybu presenoldeb rheolaidd y plant yn yr ysgol aʼu cyfranogiad mewn gweithgareddau ysgol, ac

(c)darparu i rieni maeth unrhyw wybodaeth a chynhorthwy, gan gynnwys cyfarpar, syʼn angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu diddordebau hamdden plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy ac yn eu cefnogi i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i’w hoedran ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau(1).

(4Pan fo unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyrraedd yr oedran pan na foʼn ofynnol iddo gael addysg lawnamser orfodol mwyach, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gynorthwyo i wneud trefniadau a wneir ar gyfer y plentyn mewn cysylltiad âʼi addysg, ei hyfforddiant aʼi gyflogaeth, a rhoi effaith iʼr trefniadau hynny.

(1)

Mae adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion Rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”). Mae erthygl 31 o Ran 1 o’r Confensiwn yn cydnabod hawl plentyn i chwarae.