Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

RHAN 7Staffio

Staffio - gofynion cyffredinol

28.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd âʼr cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(b)i anghenion gofal a chymorth plant,

(c)iʼr angen i gefnogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol,

(d)iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac

(e)i ofynion y Rheoliadau hyn.

Addasrwydd staff

29.—(1Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,

(c)bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,

(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 3, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac

(e)pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol i reoliʼr gwasanaeth, o 1 Medi 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol(1) â Gofal Cymdeithasol Cymru.

(3Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr awdurdod lleol at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).

(4Pan fo person syʼn cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad âʼr person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddiʼr dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach oʼr fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7Os nad yw person syʼn gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor oʼr gofynion ym mharagraff (2), rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a

(b)pan foʼn briodol, hysbysu—

(i)Gofal Cymdeithasol Cymru,

(ii)y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cefnogi a datblygu staff

30.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,

(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,

(c)yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,

(d)yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,

(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac

(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gwybodaeth ar gyfer staff

31.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth aʼr ffordd y caiff ei ddarparu.

(2Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y maeʼn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.

Gweithdrefnau disgyblu

32.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle aʼi gweithredu.

(2Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogeion er budd diogelwch neu lesiant plant syʼn cael gofal a chymorth gan y gwasanaeth, a

(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)un o swyddogion Gweinidogion Cymru,

(b)y darparwr awdurdod lleol,

(c)swyddog i’r awdurdod lleol,

(d)yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog iʼr Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(e)swyddog heddlu,

yn ôl y digwydd.

Cyfyngiadau ar gyflogaeth

33.—(1Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol gyflogi i weithio, at ddibenion y gwasanaeth maethu, mewn swydd y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, berson sydd—

(a)yn rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth maethu, neu

(b)yn aelod o aelwyd rhiant maeth oʼr fath.

(2Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, neu am ddim mwy na 5 awr mewn unrhyw wythnos, yn achos swydd nad yw’n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol.

(1)

Gweler adran 79(1)(b) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o “rheolwr gofal cymdeithasol”.