RHAN 2Gofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol
Gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau10
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y polisïau aʼr gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
a
diogelu (gweler rheoliad 20),
b
defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 21),
c
bwlio (gweler rheoliad 24),
d
absenoldeb (gweler rheoliad 25),
e
meddyginiaeth (gweler rheoliad 26 (mynediad i wasanaethau iechyd)),
f
cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 30),
g
disgyblu staff (gweler rheoliad 32),
h
cwynion (gweler rheoliad 39),
i
chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 40),
j
cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 45).
2
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle syʼn rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.
3
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
a
yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,
b
yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac
c
yn cael eu cadwʼn gyfredol.
4
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.
5
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.