RHAN 5Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol - diogelu
Polisïau a gweithdrefnau diogelu20
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
a
ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
b
ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
2
Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
3
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod ei bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.
4
Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—
a
gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,
b
cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,
c
gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a
d
cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.