RHAN 9Gofynion eraill ar ddarparwyr awdurdod lleol
Polisi a gweithdrefnau cwyno39
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol âʼr polisi hwnnw.
2
Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan neu ar ran plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr ynghylch—
a
y darparwr,
b
rhieni maeth, ac
c
unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.
3
Rhaid i’r polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r darparwr awdurdod lleol gan neu ar ran unrhyw blant eraill y gall y lleoliad a wneir effeithio arnynt ynghylch—
a
y darparwr, a
b
unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.
4
Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan rieni maeth ynghylch—
a
y darparwr, a
b
unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.
5
Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan rieni unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr ynghylch—
a
y darparwr, a
b
unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.
6
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—
a
nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,
b
sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, ac
c
cadw cofnodion syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).
7
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
8
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—
a
dadansoddi gwybodaeth syʼn ymwneud â chwynion a phryderon, a
b
gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.