Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/04/2019.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rhagolygol
Rheoliadau 2 a 4
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Rhaid iʼr datganiad o ddiben a lunnir gan ddarparwr awdurdod lleol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw a phrif gyfeiriad yr awdurdod lleol,
(b)enw rheolwr yr awdurdod lleol,
(c)datganiad o ystod anghenion y plant y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu ar eu cyfer,
(d)sut y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu i ddiwallu anghenion plant ac iʼw cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol,
(e)manylion strwythur rheoli a staffio’r gwasanaeth,
(f)manylion y cyfleusterau aʼr cyfarpar a fydd ar gael i rieni maeth iʼw cynorthwyo i ddiwallu anghenion plant am ofal a chymorth ac iʼw cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol,
(g)manylion y trefniadau a wnaed i gefnogi anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol plant,
(h)manylion y trefniadau a wnaed i ddarparu cymorth i blant mewn perthynas âʼu cyfeiriadedd rhywiol aʼu hunaniaeth o ran rhywedd,
(i)manylion y trefniadau a wnaed ar gyfer ymgynghori â phlant ynghylch gweithredu gwasanaeth maethuʼr awdurdod lleol,
(j)manylion ynghylch sut y bydd yr awdurdod lleol yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu plant, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rheoliad 37
1. Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—LL+C
(a)dyddiad lleoliʼr plentyn;
(b)cynllun gofal a chymorth y plentyn;
(c)y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;
(d)enw a chyfeiriad y rhieni maeth;
(e)y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;
(f)cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;
(g)cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;
(h)y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr awdurdod lleol, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 29(1)—LL+C
(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;
(b)dyddiad geni;
(c)rhyw;
(d)cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;
(e)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;
(f)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;
(g)pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr awdurdod lleol;
(h)pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;
(i)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;
(j)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;
(k)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac
(l)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr awdurdod lleol yn ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr awdurdod lleol mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
5. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
6. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw achos o ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth gan rieni maeth ar blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliadau 2 a 29
1. Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B oʼr Ddeddf honno ynghyd, pan foʼn gymwys, â gwybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) oʼr Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) oʼr Ddeddf honno).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
5. Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
7. Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
9. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
10. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—LL+C
(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
(i)os yʼi dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 29(3) neu (6), a
(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;
(b)os ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, maeʼr dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd yʼi dyroddwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2006 p. 47. Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod sydd i’w bennu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: