2018 Rhif 14 (Cy. 7)
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018
Made
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
4
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20132, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 14.
3
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
a
yn y man priodol mewnosoder—
i
ystyr “cynllun gwaed cymeradwy” (“approved blood scheme”) yw—
- a
cynllun a sefydlir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ymddiriedolaeth a sefydlir gyda chyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi digollediad mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig; neu
- b
cynllun a sefydlir o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20063 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Felindre4 at y diben o wneud taliadau a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi eu heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau, drwy waed halogedig neu gynhyrchion gwaed halogedig a ddefnyddir gan y GIG, neu mewn cysylltiad â hynny;
ii
ystyr “Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain” yw’r cwmni sy’n dwyn yr enw “the London Emergencies Trust” (rhif 09928465) a ymgorfforwyd ar 23 Rhagfyr 2015 a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw (rhif 1172307) a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2017;
iii
ystyr “aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith” (“member of the work-related activity group”) yw person sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu berson a drinnir felly, o dan naill ai—
iv
ystyr “Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban” yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw “the Scottish Infected Blood Support Scheme” a weinyddir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin (a gyfansoddwyd gan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 19787;
v
ystyr “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” yw’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw “the We Love Manchester Emergency Fund” (rhif 1173260) a sefydlwyd ar 30 Mai 2017;
b
yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—
mewn perthynas â “cartref gofal” (“care home”)—
- a
yn Lloegr mae iddo’r ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 20008;
- b
ei ystyr yng Nghymru yw man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20169, i oedolion yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
- c
yn yr Alban mae iddo’r ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 201010; a
- d
yng Ngogledd Iwerddon mae iddo’r ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 200311 neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;
c
yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) rhodder—
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”), ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 7, yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo—
a
cyfrifo’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r ceisydd yn cynnwys elfen o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu
b
y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith;
d
yn y diffiniad o “person cymwys” (“qualifying person”), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder, “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
4
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;
ii
yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;
iii
yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;
iv
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;
v
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” yn y drefn honno;
vi
yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “a phan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
vii
yn lle is-baragraff (9) rhodder—
9
Wrth gymhwyso is-baragraff (2) mae’r canlynol i’w diystyru o incwm wythnosol gros yr annibynnydd—
a
unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd;
b
unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
b
ym mharagraff 10(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—
i
yn lle paragraff (j)(xiii) rhodder—
xiii
taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 201412;
ii
yn lle paragraff (m) rhodder—
m
pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol;
c
ym mharagraff 11 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (3A)—
aa
ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;
bb
yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—
b
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu
c
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd yn newid, er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.
ii
yn is-baragraff (4A)—
aa
ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;”;
bb
yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—
b
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu
c
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.
d
ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—
i
yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—
1
gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan y darparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ii
yn is-baragraff (11)(c) ar ôl “galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith” y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “neu oherwydd y byddai’r aelod arall o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.
5
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£159.35” a “£172.55” rhodder “£163.00” a “£176.40” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£243.25” a “£258.15” rhodder “£248.80” a “£263.80” yn y drefn honno;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£243.25” a “£83.90” rhodder “£248.80” a “£85.80” yn y drefn honno;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£258.15” a “£85.60” rhodder “£263.80” a “£87.40” yn y drefn honno;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;
ii
yn is-baragraff (2), yn lle “£24.78” rhodder “£25.48”;
iii
yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;
iv
yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”.
6
Yn Atodlen 3 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr), ym mharagraff 5(1)(d)(ii), yn lle “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” rhodder “yn codi,”.
7
Yn Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr), yn lle paragraff 1(g), rhodder—
g
pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.
8
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
b
ar ôl paragraff 28A mewnosoder—
28B
Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
9
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;
ii
yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;
iii
yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;
iv
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;
v
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” yn y drefn honno;
vi
yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “neu pan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
vii
yn is-baragraff (9)(b), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
viii
ar ddiwedd is-baragraff (9)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
ix
ar ôl is-baragraff (9)(c) mewnosoder—
d
unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
b
ym mharagraff 10A (y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;
ii
yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—
b
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu
c
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.
c
ym mharagraff 19(4)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
d
ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—
i
yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—
1
gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu
ii
yn is-baragraff (11)(a), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
iii
yn is-baragraff (11)(c), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
e
ym mharagraff 27(7) (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester,”;
f
ym mharagraff 30 (cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (4)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
10
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£73.85” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£76.10” ac yn lle “£58.50” rhodder “£60.25”;
ii
yn is-baragraff (2), yn lle “£73.85” rhodder “£76.10”;
iii
yn is-baragraff (3), yn lle “£116.00” rhodder “£119.50”;
b
ym mharagraff 2(a) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “neu os yw’r ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
c
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£32.55” a “£46.40” rhodder “£33.55” a “£47.80” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;
iii
yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;
iv
yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”;
v
yn is-baragraff (5), yn lle “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” rhodder “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” yn y drefn honno;
d
yn Rhan 5 (yr elfennau), ym mharagraff 18(c)(ii) hepgorer “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith”;
e
yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.55” rhodder “£37.65”.
11
Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 4(2), ar ôl “Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)” mewnosoder “neu pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
b
ym mharagraff 18, yn is-baragraff (2)(b)(iv)—
i
ym mharagraff (aa), yn lle “yn eu tro” rhodder “, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
ii
ym mharagraff (bb), yn lle “ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd” rhodder “, neu un aelod, o leiaf, o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.
12
Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn lle paragraff 20(g) rhodder—
g
pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.
b
ym mharagraff 41, yn is-baragraffau (1) a (7), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
13
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 29—
i
yn is-baragraff (1), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
ii
yn is-baragraff (7), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
b
ym mharagraff 38, ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
c
ar ôl paragraff 63 mewnosoder—
64
Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
14
Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill), ym mharagraff 5(7)(a)(ii) (tystiolaeth a gwybodaeth), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
15
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 201313 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 16 i 33.
16
Ym mharagraff 2 (dehongli), yn is-baragraff (1)—
a
yn y man priodol mewnosoder—
i
ystyr “cynllun gwaed cymeradwy” (“approved blood scheme”) yw—
- a
cynllun a sefydlir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ymddiriedolaeth a sefydlir gyda chyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi digollediad mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig; neu
- b
cynllun a sefydlir o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200614 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Felindre15 at y diben o wneud taliadau a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi eu heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau, drwy waed halogedig neu gynhyrchion gwaed halogedig a ddefnyddir gan y GIG, neu mewn cysylltiad â hynny;
ii
ystyr “Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain” yw’r cwmni sy’n dwyn yr enw “the London Emergencies Trust” (rhif 09928465) a ymgorfforwyd ar 23 Rhagfyr 2015 a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw (rhif 1172307) a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2017;
iii
ystyr “aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith” (“member of the work-related activity group”) yw person sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu berson a drinnir felly, o dan naill ai—
- a
Rhan 5 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 30 o’r Rheoliadau hynny; neu
- b
Rhan 4 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013 ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 26 o’r Rheoliadau hynny;
iv
ystyr “Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban” yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw “the Scottish Infected Blood Support Scheme” a weinyddir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin (a gyfansoddwyd gan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978);
v
ystyr “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” yw’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw “the We Love Manchester Emergency Fund” (rhif 1173260) a sefydlwyd ar 30 Mai 2017;
b
yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—
mewn perthynas â “cartref gofal” (“care home”)—
- a
yn Lloegr mae iddo’r ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
- b
ei ystyr yng Nghymru yw man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i oedolion yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
- c
yn yr Alban mae iddo’r ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (yr Alban) 2010; a
- d
yng Ngogledd Iwerddon mae iddo’r ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003 neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;
c
yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”) rhodder—
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd” (“main phase employment and support allowance”), ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 3, yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo—
- a
cyfrifo’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r ceisydd yn cynnwys elfen o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu
- b
y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith;
d
yn y diffiniad o “person cymwys” (“qualifying person”), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
17
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;
b
yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;
c
yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;
d
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;
e
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” yn y drefn honno;
f
yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “a phan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
g
yn is-baragraff (9)(b), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
h
yn is-baragraff (9)(c) yn lle “.” rhodder “; a”;
i
ar ôl is-baragraff (9)(c) mewnosoder—
d
unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
18
Ym mharagraff 36(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—
a
yn lle paragraff (j)(xiii) rhodder—
xiii
taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014;
b
yn lle paragraff (m) rhodder—
m
pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol;
19
Ym mharagraff 37 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—
a
yn is-baragraff (3A)—
i
ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;
ii
yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—
b
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu
c
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid, er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.
b
yn is-baragraff (4A)—
i
ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;
ii
yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—
b
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu
c
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.
20
Yn lle paragraff 44A (y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) rhodder—
Y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr44A
Rhaid i enillion wythnosol cyfartalog ceisydd o gyflogaeth a amcangyfrifir yn unol â pharagraff 44 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) gael eu hystyried—
a
yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y cafodd y cais ei drin fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd;
b
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu
c
yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.
21
Ym mharagraff 53 (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (4)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
22
Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—
a
yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—
1
gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu
b
yn is-baragraff (11)(c), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
c
yn is-baragraff (11)(e), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.
23
Ym mhob un o’r darpariaethau a ganlyn, ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”—
a
paragraff 61(7) (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr);
b
paragraff 64(6)(a) (cyfalaf tybiannol);
c
paragraff 111(7)(a)(ii) (tystiolaeth a gwybodaeth).
24
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£159.35” a “£172.55” rhodder “£163.00” a “£176.40” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£243.25” a “£258.15” rhodder “£248.80” a “£263.80” yn y drefn honno;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£243.25” a “£83.90” rhodder “£248.80” a “£85.80” yn y drefn honno;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£258.15” a “£85.60” rhodder “£263.80” a “£87.40” yn y drefn honno;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;
ii
yn is-baragraff (2), yn lle “£24.78” rhodder “£25.48”;
iii
yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;
iv
yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”.
25
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£73.85” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£76.10” ac yn lle “£58.50” rhodder “£60.25”;
ii
yn is-baragraff (2), yn lle “£73.85” rhodder “£76.10”;
iii
yn is-baragraff (3), yn lle “£116.00” rhodder “£119.50”;
b
ym mharagraff 2(a) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “neu fod y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
c
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1), yn lle “£32.55” a “£46.40” rhodder “£33.55” a “£47.80” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2), yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;
iii
yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;
iv
yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”;
v
yn is-baragraff (5), yn lle “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” rhodder “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” yn y drefn honno;
d
yn Rhan 5 (yr elfennau), ym mharagraff 18(c)(ii) hepgorer “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith”;
e
yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.55” rhodder “£37.65”.
26
Yn Atodlen 4 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr), ym mharagraff 5(1)(d)(ii) yn lle “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” rhodder “yn codi,”.
27
Yn Atodlen 5 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr), yn lle paragraff 1(g) rhodder—
g
pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.
28
Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 4(2), ar ôl “Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)” mewnosoder “neu pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
b
ym mharagraff 18, yn is-baragraff (2)(b)(iv)—
i
ym mharagraff (aa), yn lle “yn eu tro” rhodder “, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;
ii
ym mharagraff (bb), yn lle “ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd” rhodder “neu fod un aelod, o leiaf, o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.
29
Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn lle paragraff 20(g) rhodder—
g
pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.
b
ym mharagraff 41(1) a (7), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.
30
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
b
ar ôl paragraff 28A mewnosoder—
28B
Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
31
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 29(1), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
b
ym mharagraff 29(8), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
c
ym mharagraff 38, ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;
d
ar ôl paragraff 63 mewnosoder—
64
Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)