Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4(a)(i) i (v), 5, 9(a)(i) i (v), a 10(a), (c) ac (e) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a) i (e), 24 a 25(a), (c) ac (e).

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(a)(iii) ac (c), 4(d)(ii), 6, 9(d)(ii) a (iii), 10(b) a (d) ac 11 o ganlyniad i ddarpariaeth yn adrannau 15 ac 16 o Ddeddf Diwygio Lles 2016. O 3 Ebrill 2017, yn gyffredinol mae hawlogaeth i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar ba un a oes gan berson alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith ai peidio yn hytrach nag ar ba un a yw’n derbyn swm elfen gweithgaredd perthynol i waith y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae rheoliad 3(a)(iii) yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig, sef “aelod o grŵp gweithgaredd perthynol i waith”. Mae’r diwygiadau dilynol yn cyflwyno cyfeiriadau at sefyllfa pan fo ceisydd neu bartner ceisydd yn aelod o grŵp gweithgaredd perthynol i waith neu â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16(a)(iii) ac (c), 17(f), 22(b) ac (c), 25(b) a (d), 26 a 28.

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(b), 4(d)(i) a 9(d)(i) o ganlyniad i ddarpariaeth yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”). Mae rheoliad 3(b) yn diwygio’r diffiniad o “cartref gofal” i gynnwys cyfeiriad at wasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf 2016. Mae rheoliadau 4(d)(i) a 9(d)(i) yn rhoi cyfeiriad at berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn lle’r cyfeiriad at weithiwr gofal cartref. Mae rheoliad 16(b) yn gwneud yr un diwygiad i’r diffiniad o “cartref gofal” yn y Rheoliadau Cynllun Diofyn, ac mae’r cyfeiriad a amnewidiwyd at weithiwr gofal cartref wedi ei fewnosod gan reoliad 22(a).

Gwneir y diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 4(b)(i) o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau 2014 sy’n disodli’r lwfans a’r taliad profedigaeth â lwfans cymorth profedigaeth. Rhoddwyd “taliad cymorth profedigaeth” yn lle’r cyfeiriad at “taliad profedigaeth” yn y ddarpariaeth sy’n ymdrin ag ystyr incwm mewn cysylltiad â phensiynwyr. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 18(a).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3(a)(i), (ii), (iv), (v) a (d), 8(a), 9(a)(vii), (c), (e) ac (f), 12(b), 13(a) a (b) a 14 yn diffinio ac yn ychwanegu cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain a Chronfa Argyfwng We Love Manchester at y rhestr o gynlluniau neu ymddiriedolaethau y mae taliadau ohonynt i’w diystyru wrth gyfrifo incwm neu gyfalaf at ddibenion asesu hawlogaeth person i ostyngiad treth gyngor. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16(a)(i), (ii), (iv), (v) a (d), 17(g), 21, 23, 29(b), 30(a) a 31(a) i (c).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(c) a 9(b) yn egluro’r dyddiad y mae enillion ceisydd yn cael eu hystyried pan fo ceisydd yn cychwyn cyflogaeth neu pan fo enillion ceisydd yn newid er mwyn sicrhau cysondeb â’r ddarpariaeth gyfatebol yn y Rheoliadau ynghylch newid mewn amgylchiadau. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 19 a 20.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(a)(vii), 8(b), 9(a)(viii) a (ix) a 13(c) yn darparu bod taliadau a wneir o dan ymddiriedolaethau penodol, neu gan ymddiriedolaethau penodol, a sefydlir at y diben o roi cymorth a chynhorthwy i bobl anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf at ddibenion asesu hawlogaeth person i ostyngiad treth gyngor, ac wrth bennu incwm annibynyddion. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(i), 30(b) a 31(d).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(b)(ii), 7 a 12(a) yn diwygio’r rhestrau o incwm ac eithrio enillion wrth bennu pa un a yw person yn gymwys i gael gostyngiad fel bod unrhyw daliad a wneir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol yn cael ei ddiystyru. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(b), 27 a 29(a).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources