Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Maent hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn parhau mewn grym fel y’u diwygir gan reoliad 100 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 6 iddynt. Mae Rheoliadau 2017 yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr sy’n parhau ar gyrsiau a ddechreuwyd ganddynt ar neu ar ôl 1 Medi 2017 a chyn 1 Awst 2018. Mae Rheoliadau 2017 hefyd yn gymwys i gyrsiau penben (o fewn yr ystyr yn y Rheoliadau hynny) ac mewn perthynas â chyrsiau pan fo statws myfyriwr wedi trosglwyddo o dan reoliad 8, 75, 102 a 114 o Reoliadau 2017 neu baragraff 11 o Atodlen 4 iddynt, pa un a yw’r trosglwyddiad hwnnw yn digwydd cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Er mwyn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson fodloni’r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 4 (Pennod 2, Adran 1) ac unrhyw ofynion cymhwystra eraill a nodir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau. Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson ddod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Atodlen 2. Mae’r rhan fwyaf o gategorïau yn Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr breswylio fel arfer yng Nghymru (ac eithrio categorïau 4(1)(a)(iv) – (vi) a chategori 6(1)). At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono (Atodlen 2, paragraff 9(1)).

Penderfynir ar y cyfnod y mae myfyriwr yn gymwys i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn yn unol â rheoliadau 12 i 23. Mae rheoliadau 24 i 27 yn cyfyngu ar argaeledd cymorth pan fo myfyriwr wedi ymgymryd ag astudio blaenorol penodol. O dan amgylchiadau penodol, caiff myfyriwr cymwys drosglwyddo o un cwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall, gan gynnwys o gwrs llawnamser i gwrs rhan-amser ac i’r gwrthwyneb (rheoliadau 28 i 31).

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5 ac 8. Darperir cymorth i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig ble bynnag y bônt yn astudio yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu set graidd o reolau ar gyfer y ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr cymwys pa un a ydynt yn astudio’n llawnamser, yn rhan-amser, ar gyrsiau rhyngosod neu ar gyrsiau dysgu o bell. Mae unrhyw wahaniaethau yn y ffordd y mae’r cyrsiau hynny yn cael eu trin wedi eu rhagnodi yn y rheoliadau perthnasol. Ni fydd myfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau rhan-amser yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo dwysedd astudio’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (rheoliad 13). Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli termau allweddol penodol ac mae paragraff 5 o Atodlen 1 yn nodi sut y mae “dwysedd astudio” i gael ei gyfrifo.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 32), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 33) ac mae rheoliad 34 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais ac er mwyn hysbysu ceisydd am benderfyniad. Mae’r Rhan hon yn gosod rhwymedigaethau ar fyfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (rheoliad 35), i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad (rheoliad 36) a rhwymedigaeth ar awdurdodau academaidd i hysbysu Gweinidogion Cymru pan fo myfyriwr wedi peidio ag ymgymryd â chwrs (rheoliad 37).

Mae cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar gael ar ffurf y grantiau a’r benthyciadau a ganlyn-

a.

benthyciad at ffioedd dysgu (Rhan 6);

b.

grant sylfaenol a grant cynhaliaeth (Rhan 7);

c.

benthyciad cynhaliaeth (Rhan 8);

d.

grant myfyriwr anabl (Rhan 9);

e.

grantiau at deithio (Rhan 10);

f.

grantiau ar gyfer dibynyddion (Rhan 11);

g.

grant myfyriwr ôl-raddedig anabl (Rhan 15);

h.

benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge (Rhan 16).

Er mwyn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, benthyciad cynhaliaeth, grant myfyriwr anabl, grant at deithio, neu grantiau ar gyfer dibynyddion, rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y mathau hynny o gymorth. Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i fyfyrwyr cymwys sy’n dymuno ymgymryd â chwrs dysgu o bell, yn ychwanegol at fodloni’r amodau cymhwyso, fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i fyfyrwyr nad ydynt yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd eu bod hwy, neu eu perthynas agos, yn gwasanaethu fel aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron y tu allan i Gymru. Nid yw myfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell yn gymwys i gael grantiau at deithio, grantiau ar gyfer dibynyddion, na benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge (yn ddarostyngedig i’r eithriad ym mharagraff 3(4) o Atodlen 5).

Nid yw grantiau at ffioedd a oedd yn daladwy o dan Reoliadau 2017 ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac maent wedi eu disodli gan fenthyciadau at ffioedd dysgu sy’n daladwy yn unol â Rhan 6. Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer talu grant sylfaenol newydd a grant cynhaliaeth. Mae’r grant sylfaenol yn daliad o £1,000 ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau llawnamser ac ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chyrsiau rhan-amser mae’n £1,000 wedi ei luosi â dwysedd eu hastudio.

Penderfynir ar swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr llawnamser drwy gyfeirio at drefniadau byw’r myfyriwr, incwm ei aelwyd a pha un a yw’n berson sy’n ymadael â gofal (rheoliad 46). Penderfynir ar swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser drwy gyfeirio at incwm aelwyd y myfyriwr, pa un a yw’n berson sy’n ymadael â gofal a dwysedd ei astudio (rheoliad 47). Cyfrifir incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3. Mae “person sy’n ymadael â gofal” at y dibenion hyn wedi ei ddiffinio yn rheoliad 49.

Mae Pennod 4 o Ran 7 o’r Rheoliadau hyn yn darparu i daliad cymorth arbennig gael ei wneud i fyfyriwr cymwys sy’n bodloni un o’r amodau cymhwyso yn rheoliad 51 ac sy’n cymhwyso i gael grant sylfaenol neu grant cynhaliaeth. Bwriedir i’r taliad cymorth arbennig dalu am gostau llyfrau ac offer, treuliau teithio a chostau gofal plant yr eir iddynt gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig.

Mae benthyciadau cynhaliaeth yn daladwy i fyfyriwr cymwys yn unol â Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn. Bydd myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth oni bai bod un o’r eithriadau yn rheoliad 54 yn gymwys i’r myfyriwr. Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael yn unol â rheoliadau 55 i 57 ar gyfer myfyrwyr llawnamser a rheoliad 58 ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.

Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â grantiau myfyrwyr anabl. Mae’r amodau cymhwyso ar gyfer grantiau o’r fath wedi eu nodi yn rheoliad 62. Swm y grant sydd ar gael i fyfyrwyr anabl yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol ac nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir yn rheoliad 63(2).

Mae Rhan 10 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â grantiau at deithio; gan gynnwys grantiau at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygol (rheoliad 65) ac ar gyfer astudio neu waith dramor (rheoliad 66).

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau i fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â dibynyddion penodol. Mae tri grant ar gael; grant oedolion dibynnol (Pennod 2), grant dysgu ar gyfer rhieni (Pennod 3) a grant gofal plant (Pennod 4). Er mwyn cymhwyso i gael grant, rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni’r amodau cymhwyso penodol ar gyfer y grant hwnnw a’r amodau cymhwyso yn rheoliad 69.

Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n cymhwyso i gael mathau penodol o gymorth ran o’r ffordd drwy flwyddyn academaidd. Pan fo myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grant yn ystod blwyddyn academaidd, ni thelir y cymorth hwnnw ond mewn cysylltiad â’r chwarteri academaidd yn dilyn y digwyddiad sy’n sbarduno eu cymhwystra. Ni fydd benthyciad cynhaliaeth ond yn daladwy os yw’n chwarter y byddai’r benthyciad fel arall yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 85(6) a (7).

Mae Rhan 13 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â thaliadau, gordaliadau ac adennill taliadau.

Mae rheoliadau 93 i 95 yn gwneud darpariaeth i gymorth sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn gael ei ostwng o dan amgylchiadau penodol; gan gynnwys pan fo myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor, yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs presennol am unrhyw gyfnod, neu pan fo ei gymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, yn ystod blwyddyn academaidd.

Mae Atodlen 3 yn ymwneud â chyfrifo incwm. Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn darparu ar gyfer y ffordd y bydd incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion penderfynu ar swm y grant cynhaliaeth, y grant at deithio a’r grantiau ar gyfer dibynyddion a all fod yn daladwy i’r myfyriwr cymwys. Er mwyn cyfrifo incwm aelwyd mae angen cyfrifo incwm trethadwy ac incwm gweddilliol pob person sydd ar yr aelwyd. Mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn nodi ystyr incwm trethadwy at y dibenion hyn. Mae Rhan 4 o Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm gweddilliol person. Mae Rhan 5 o Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol, ac at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr.

Mae Rhan 15 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae Rhan 16 ac Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd colegau Oxbridge”. Benthyciadau yw’r rhain mewn cysylltiad â’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan fyfyriwr Oxbridge cymwys (fel y’u diffinnir ym mharagraff 3 o Atodlen 5) i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen, neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs Oxbridge dynodedig (fel y’i diffinnir ym mharagraff 2 o Atodlen 5).

Mae Rhan 17 ac Atodlen 6 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau 2017.

Atodlen 7 yw’r atodlen olaf i’r Rheoliadau hyn ac mae’n cynnwys y mynegai o dermau wedi eu diffinio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources