RHAN 10GRANTIAU AT DEITHIO
Grant at deithioI164
Mae grant at deithio yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 65(1) neu 66(1).
Grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygolI265
1
Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
Amod 1
Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser mewn—
a
meddygaeth, neu
b
deintyddiaeth,
y mae rhan angenrheidiol ohono yn gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol.
Amod 2
Yn y flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd i wariant at ddiben bod yn bresennol mewn—
a
ysbyty, neu
b
mangre arall,
yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol) er mwyn ymgymryd â hyfforddiant clinigol fel rhan o’r cwrs.
Amod 3
Nid yw’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
a
bwrsari gofal iechyd, neu
b
lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
2
Ond nid yw grant at deithio ar gael pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
3
Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—
Cam 1
Penderfynu ar swm y gwariant rhesymol y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo yn y flwyddyn academaidd o dan sylw at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1) (gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y diben hwnnw cyn neu ar ôl bod yn bresennol yn yr ysbyty neu yn y fangre arall).
Cam 2
Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn £59,200 neu lai mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £303 o’r swm a geir yng Ngham 1.
Os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn fwy na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, didynnu £1,000 o’r swm a geir yng Ngham 1.
Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy.
4
Nid yw gwariant yr eir iddo at ddiben cyfnod o astudio preswyl i ffwrdd o’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol yn wariant yr eir iddo at y diben a grybwyllir yn Amod 2 o baragraff (1).
Grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramorI366
1
Mae grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
Amod 1
Mae’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser.
Amod 2
Am o leiaf hanner unrhyw chwarter o’r flwyddyn academaidd o dan sylw, mae’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, mewn—
a
sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis), neu
b
lleoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus,
(cyfeirir at bresenoldeb o’r fath yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad” ac at chwarter o’r fath fel “chwarter cymhwysol”).
Amod 3
Mae’r myfyriwr yn mynd i—
a
costau teithio, neu
b
unrhyw wariant a grybwyllir ym mharagraff (3),
at ddiben y lleoliad.
2
Swm y grant at deithio sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
Pan—
X yw swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n ofynnol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at ddibenion y lleoliad;
Y yw—
- a
£303 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys (gweler Atodlen 3) yn £59,200 neu lai mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw, neu
- b
£1,000 os yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn fwy na £59,200 mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno;
- a
Z yw swm cyfanredol unrhyw wariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).
Y canlyniad yw swm y grant at deithio sy’n daladwy (ac os yw’r canlyniad yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, nid yw grant at deithio yn daladwy).
3
Y gwariant a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yw—
a
gwariant y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae’n ei ddal neu’n ei ddioddef yn ystod y lleoliad;
b
cost unrhyw fisa y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ei chael er mwyn bod yn bresennol yn y lleoliad;
c
costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr fynd iddynt er mwyn cyflawni amod mandadol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r lleoliad.
Grant at deithio nad yw’n daladwy ar gyfer gwariant a gwmpesir gan y grant myfyriwr anablI467
Pan fo grant myfyriwr anabl yn daladwy i gynorthwyo myfyriwr cymwys gyda gwariant y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs presennol oherwydd anabledd y myfyriwr, nid yw grant at deithio yn daladwy o dan reoliad 65 neu 66 mewn cysylltiad â’r un gwariant.