RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION

PENNOD 1CYFLWYNIAD

Grantiau ar gyfer dibynyddionI168

1

Mae’r canlynol yn grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau sy’n gysylltiedig â dibynyddion penodol y myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd—

a

grant oedolion dibynnol (gweler Pennod 2);

b

grant dysgu ar gyfer rhieni (gweler Pennod 3);

c

grant gofal plant (gweler Pennod 4).

2

Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at y grantiau hynny gyda’i gilydd fel “grantiau ar gyfer dibynyddion”.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 68 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddionI269

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw grant penodol ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

a

os yw’r myfyriwr yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y grant hwnnw,

b

os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2), ac

c

os yw cwrs presennol y myfyriwr yn gwrs rhan-amser, os yw’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn 50% o leiaf.

2

Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

a

bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

b

bod y myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

a

bwrsari gofal iechyd, neu

b

lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

Eithriad 7

Mae’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef—

a

yn fyfyriwr cymwys, a

b

yn cael dyfarndal statudol.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 69 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Rhan 11I370

1

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am grant ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â hi;

  • ystyr “oedolyn dibynnol” (“adult dependant”) yw oedolyn—

    1. a

      sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu

    2. b

      sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,

  • ond nid plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys partner y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr cymwys;

  • ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yw plentyn—

    1. a

      sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu

    2. b

      sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,

  • gan gynnwys plentyn i bartner y myfyriwr cymwys a phlentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto;

  • ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw person—

    1. a

      sy’n rhiant plentyn dibynnol, a

    2. b

      nad oes ganddo bartner.

2

Yn y Rhan hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw–

a

priod neu bartner sifil A, neu

b

person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at incwm person neu bersonau yn gyfeiriad at yr incwm hwnnw fel y’i cyfrifir yn unol â’r darpariaethau priodol yn Atodlen 3.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 70 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2GRANT OEDOLION DIBYNNOL

Grant oedolion dibynnolI471

1

Dim ond mewn cysylltiad ag un o’r personau a ganlyn—

a

partner y myfyriwr,

b

oedolyn dibynnol y myfyriwr,

y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol.

2

Ond nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol os yw un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol (“O”)—

a

mae incwm net O ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn fwy na £3,923, neu

b

mae O yn—

i

priod neu bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae partner y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho), neu

ii

cyn-bartner i bartner y myfyriwr cymwys.

Eithriad 2

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad â phartner y myfyriwr “(P)”—

a

mae’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu oddi wrth P, neu

b

mae P yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nid yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 71 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm y grant oedolion dibynnolI572

1

Yn Nhabl 11, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

2

Ond pan fo’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae swm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy yn swm, nad yw’n fwy na’r uchafswm, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Tabl 11

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant oedolion dibynnol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£2,732

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 72 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3GRANT DYSGU AR GYFER RHIENI

Grant dysgu ar gyfer rhieniI673

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys un neu ragor o blant dibynnol.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 73 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieniI774

Yn Nhabl 12, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 12

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£1,557

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 74 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4GRANT GOFAL PLANT

Grant gofal plantI875

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant mewn cysylltiad â ffioedd gofal plant rhagnodedig yr eir iddynt ar gyfer plentyn dibynnol yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol os yw un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

Amod 1

Mae’r plentyn dibynnol o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.

Amod 2

Mae gan y plentyn dibynnol anghenion addysgol arbennig o fewn ystyr “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 199636 ac mae o dan 17 oed yn union cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.

2

Ond nid yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn—

Achos 1

Mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200237.

Achos 2

Mae gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm mewn cysylltiad â chostau gofal plant o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)38.

Achos 3

Mae partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

Achos 4

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig ar gyfer cyfnod y mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys mewn cysylltiad ag ef o fewn yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf Taliadau Gofal Plant 201439.

Achos 5

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig wedi eu talu neu i’w talu gan y myfyriwr cymwys i bartner y myfyriwr.

Achos 6

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

3

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 76—

  • ystyr “ffioedd gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw ffioedd gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 200240;

  • mae “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yn cynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 75 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm y grant gofal plantI976

1

Swm y grant gofal plant sy’n daladwy yw 85% o ffioedd gofal plant rhagnodedig wythnosol y myfyriwr cymwys, hyd at yr uchafswm wythnosol—

a

a bennir yn Nhabl 13, neu

b

pan fo paragraff (4) yn gymwys, a bennir yn y paragraff hwnnw.

2

Yn Nhabl 13—

a

mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm wythnosol y grant gofal plant yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

b

mae Colofn 2 yn pennu nifer y plant dibynnol y mae’r symiau a bennir yng Ngholofn 3 yn ymwneud â hwy;

c

mae Colofn 3 yn pennu uchafswm wythnosol y grant gofal plant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2, pan fo’r cais am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant.

Tabl 13

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Nifer y plant dibynnol

Colofn 3

Uchafswm wythnosol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

Un plentyn dibynnol

£161.50

Mwy nag un plentyn dibynnol

£274.55

3

Pan fo gan y myfyriwr cymwys fwy nag un plentyn dibynnol, y swm a bennir yn y cofnod priodol yng Ngholofn 3 yw’r uchafswm wythnosol sy’n daladwy, ni waeth faint o blant sy’n cael gofal plant.

4

Pan na fo cais y myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi’r darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu—

a

ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85% o’r ffioedd gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm wythnosol o £115;

b

ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

5

At ddibenion cyfrifo swm grant gofal plant, mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

6

Os eir i ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag wythnos sy’n dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn cysylltiad â hi ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir yr uchafswm wythnosol drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

A×B7math

Pan—

  • A yw’r uchafswm wythnosol sy’n gymwys, a

  • B yw nifer y diwrnodau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 76 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 5SWM Y GRANT AR GYFER DIBYNYDDION SY’N DALADWY

Grantiau ar gyfer dibynyddion: cyfrifo’r swm sy’n daladwyI1077

1

Cyfrifir swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo swm cyfanredol—

a

incwm aelwyd y myfyriwr cymwys a gyfrifir o dan Ran 2 o Atodlen 3,

b

os nad yw eisoes wedi cael ei ystyried fel rhan o incwm aelwyd y myfyriwr cymwys, incwm gweddilliol oedolyn dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Bennod 2 o Ran 4 o Atodlen 3, ac

c

incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys a gyfrifir o dan Ran 5 o Atodlen 3.

Cam 2

Didynnu’r symiau a ganlyn o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1—

a

£6,159, pan na fo gan y myfyriwr cymwys blant dibynnol;

b

£8,473, pan na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

c

£9,632, pan—

i

na fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol, a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol, neu

ii

bo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

d

£10,797, pan fo’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

Y canlyniad yw’r cyfanswm net.

Cam 3

Adio at ei gilydd uchafswm pob grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael.

Y canlyniad yw’r uchafsymiau cyfanredol.

Cam 4

a

Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn cyfateb i ddim neu i swm negyddol, y swm sy’n daladwy yw—

i

pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3;

ii

pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, yr uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 wedi eu gostwng yn unol â pharagraff (2).

b

Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn hafal i’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3 neu’n fwy na hwy, y swm sy’n daladwy yw dim.

c

Os yw’r cyfanswm net o dan Gam 2 yn swm positif sy’n llai na’r uchafsymiau cyfanredol a geir o dan Gam 3, didynnu’r cyfanswm net o’r uchafsymiau cyfanredol er mwyn gostwng swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yn y drefn a ganlyn hyd nes bod y cyfanswm net wedi ei ddihysbyddu—

i

yn gyntaf, didynnu uchafswm y grant oedolion dibynnol y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael;

ii

wedyn, didynnu uchafswm y grant gofal plant y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael;

iii

yn olaf, didynnu uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael.

d

Pan fo is-baragraff (c) o’r Cam hwn yn gymwys, y swm sy’n weddill ar ôl y gostyngiad hwnnw yw—

i

y swm sy’n daladwy pan fo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser;

ii

y swm sydd i gael ei ostwng yn unol â pharagraff (2) pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser.

2

Os yw cwrs presennol y myfyrwyr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

a

50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

b

60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

c

75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.

3

Pan fo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2), yn swm y grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n fwy na £0.01 ond yn llai na £50, y swm sy’n daladwy yw £50.

4

Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 78 a 79.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 77 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Swm y grant oedolion dibynnol a’r grant gofal plant: pan fo partner y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwysI1178

Pan, o ganlyniad i Gam 4 o baragraff (1) o reoliad 77 neu, yn ôl y digwydd, baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw, fo swm grant oedolion dibynnol a grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys, mae’r swm hwnnw wedi ei ostwng un hanner pan fo—

a

partner y myfyriwr cymwys—

i

yn fyfyriwr cymwys, neu

ii

wedi cael dyfarndal statudol, a

b

swm y cymorth sy’n daladwy i’r partner—

i

yn rhinwedd bod y partner yn fyfyriwr cymwys, neu

ii

o dan y dyfarndal statudol

yn ystyried dibynyddion y partner.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 78 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Newidiadau mewn amgylchiadauI1279

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—

a

mae nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

b

mae’r myfyriwr yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;

c

mae’r myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 81(3).

2

At ddibenion penderfynu a yw grant oedolion dibynnol neu grant dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy a’r swm sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol—

a

faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i’w drin fel pe baent ganddo;

b

a yw’r myfyriwr i’w drin fel rhiant unigol.

3

Cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd yw—

a

swm cyfanredol y grant oedolion dibynnol a’r grant dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir mewn cysylltiad â phob chwarter perthnasol o dan y rheoliad hwn, plws

b

swm unrhyw grant gofal plant sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd.

4

Mae swm y grant oedolion dibynnol a’r grant dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant hwnnw a fyddai’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd fel y’i penderfynir o dan reoliad 77 pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol wedi aros yr un peth drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfan.

5

Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” yw—

a

yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c), chwarter sy’n dechrau yn union ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd;

b

fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd.