xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION

PENNOD 1CYFLWYNIAD

Grantiau ar gyfer dibynyddion

68.—(1Mae’r canlynol yn grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau sy’n gysylltiedig â dibynyddion penodol y myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd—

(a)grant oedolion dibynnol (gweler Pennod 2);

(b)grant dysgu ar gyfer rhieni (gweler Pennod 3);

(c)grant gofal plant (gweler Pennod 4).

(2Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at y grantiau hynny gyda’i gilydd fel “grantiau ar gyfer dibynyddion”.

Amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion

69.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw grant penodol ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol—

(a)os yw’r myfyriwr yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y grant hwnnw,

(b)os nad yw’r myfyriwr yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff (2), ac

(c)os yw cwrs presennol y myfyriwr yn gwrs rhan-amser, os yw’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd yn 50% o leiaf.

(2Yr eithriadau yw—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs mynediad graddedig carlam, ac eithrio blwyddyn gyntaf y cwrs.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

Eithriad 7

Mae’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef—

(a)yn fyfyriwr cymwys, a

(b)yn cael dyfarndal statudol.

Dehongli Rhan 11

70.—(1Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am grant ar gyfer dibynyddion mewn cysylltiad â hi;

ystyr “oedolyn dibynnol” (“adult dependant”) yw oedolyn—

(a)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu

(b)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,

ond nid plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys partner y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr cymwys;

ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yw plentyn—

(a)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys, neu

(b)

sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys ac ar bartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd,

gan gynnwys plentyn i bartner y myfyriwr cymwys a phlentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto;

ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw person—

(a)

sy’n rhiant plentyn dibynnol, a

(b)

nad oes ganddo bartner.

(2Yn y Rhan hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw–

(a)priod neu bartner sifil A, neu

(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at incwm person neu bersonau yn gyfeiriad at yr incwm hwnnw fel y’i cyfrifir yn unol â’r darpariaethau priodol yn Atodlen 3.