Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
71.—(1) Dim ond mewn cysylltiad ag un o’r personau a ganlyn—
(a)partner y myfyriwr,
(b)oedolyn dibynnol y myfyriwr,
y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol.
(2) Ond nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol os yw un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol (“O”)—
(a)mae incwm net O ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn fwy na £3,923, neu
(b)mae O yn—
(i)priod neu bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae partner y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho), neu
(ii)cyn-bartner i bartner y myfyriwr cymwys.
Eithriad 2
Pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad â phartner y myfyriwr “(P)”—
(a)mae’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu oddi wrth P, neu
(b)mae P yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nid yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 71 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
72.—(1) Yn Nhabl 11, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
(2) Ond pan fo’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae swm y grant oedolion dibynnol sy’n daladwy yn swm, nad yw’n fwy na’r uchafswm, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
[F1Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Blwyddyn academaidd | Uchafswm y grant oedolion dibynnol |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020 | £2,732 |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 | £3,094 |
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 | £3,190] |
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 72 Amnewidiwyd Tabl 11 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 32
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 72 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)