RHAN 11GRANTIAU AR GYFER DIBYNYDDION

PENNOD 4GRANT GOFAL PLANT

Grant gofal plantI175

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant mewn cysylltiad â ffioedd gofal plant rhagnodedig yr eir iddynt ar gyfer plentyn dibynnol yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol os yw un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

Amod 1

Mae’r plentyn dibynnol o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.

Amod 2

Mae gan y plentyn dibynnol anghenion addysgol arbennig o fewn ystyr “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 199636 ac mae o dan 17 oed yn union cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.

2

Ond nid yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant gofal plant yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn—

Achos 1

Mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200237.

Achos 2

Mae gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm mewn cysylltiad â chostau gofal plant o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)38.

Achos 3

Mae partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

Achos 4

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig ar gyfer cyfnod y mae’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys mewn cysylltiad ag ef o fewn yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf Taliadau Gofal Plant 201439.

Achos 5

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig wedi eu talu neu i’w talu gan y myfyriwr cymwys i bartner y myfyriwr.

Achos 6

Mae’r ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

3

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 76—

  • ystyr “ffioedd gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw ffioedd gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 200240;

  • mae “plentyn dibynnol” (“dependent child”) yn cynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 75 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm y grant gofal plantI276

1

Swm y grant gofal plant sy’n daladwy yw 85% o ffioedd gofal plant rhagnodedig wythnosol y myfyriwr cymwys, hyd at yr uchafswm wythnosol—

a

a bennir yn Nhabl 13, neu

b

pan fo paragraff (4) yn gymwys, a bennir yn y paragraff hwnnw.

2

Yn Nhabl 13—

a

mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm wythnosol y grant gofal plant yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

b

mae Colofn 2 yn pennu nifer y plant dibynnol y mae’r symiau a bennir yng Ngholofn 3 yn ymwneud â hwy;

c

mae Colofn 3 yn pennu uchafswm wythnosol y grant gofal plant sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2, pan fo’r cais am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant.

Tabl 13

F2Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Blwyddyn academaidd

Nifer y plant dibynnol

Uchafswm wythnosol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020

Un plentyn dibynnol

£161.50

Mwy nag un plentyn dibynnol

£274.55

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021

Un plentyn dibynnol

£174.22

Mwy nag un plentyn dibynnol

£298.69

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021

Un plentyn dibynnol

£179.62

Mwy nag un plentyn dibynnol

£307.95

3

Pan fo gan y myfyriwr cymwys fwy nag un plentyn dibynnol, y swm a bennir yn y cofnod priodol yng Ngholofn 3 yw’r uchafswm wythnosol sy’n daladwy, ni waeth faint o blant sy’n cael gofal plant.

4

Pan na fo cais y myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi’r darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu—

a

ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85% o’r ffioedd gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm wythnosol o F1£138.31;

b

ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

5

At ddibenion cyfrifo swm grant gofal plant, mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

6

Os eir i ffioedd gofal plant rhagnodedig mewn cysylltiad ag wythnos sy’n dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn cysylltiad â hi ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir yr uchafswm wythnosol drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

A×B7math

Pan—

  • A yw’r uchafswm wythnosol sy’n gymwys, a

  • B yw nifer y diwrnodau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd.