Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/12/2019.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
80.—(1) Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.
(2) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—
(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n [F1dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
[F2(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]
(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE;
(iv)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(3) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2);
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);
[F3“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);
[F4“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)]
“plentyn” (“child”);
“rhiant” (“parent”).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 80(2)(b)(i) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 13(a)
F2Rhl. 80(2)(b)(ia) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 52(a)
F3Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 52(b)
F4Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 13(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 80 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
81.—(1) Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr cymwys gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grant.
(2) Ond ni fydd swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ond—
[F5(a)yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a]
(b)yn daladwy, mewn perthynas â benthyciad cynhaliaeth, os yw’n chwarter y byddai’r benthyciad fel arall yn daladwy o dan reoliad 85(6) a (7) mewn cysylltiad ag ef.
(3) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail–
(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n [F6dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
[F7(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]
(ii)bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iii)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(iv)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
(vi)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
Diwygiadau Testunol
F5Rhl. 81(2)(a) wedi ei amnewid (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 7
F6Geiriau yn rhl. 81(3)(b)(i) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 14
F7Rhl. 81(3)(b)(ia) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 53
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 81 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: