RHAN 13TALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL
PENNOD 3TALU BETHYCIADAU CYNHALIAETH A GRANTIAU
Talu benthyciadau cynhaliaeth a grantiauI185
1
Rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant i fyfyriwr cymwys pan fo’n daladwy i’r myfyriwr.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.
3
Yn ddarostyngedig i F1baragraff (5), mae grant yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
F24
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
5
Mae grant at deithio sy’n daladwy o dan reoliad 66 yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r chwarteri cymhwysol (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw).
6
Mae benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn cysylltiad â thri chwarter y flwyddyn academaidd.
7
Nid yw unrhyw fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy—
a
yn achos cwrs gradd cywasgedig, mewn cysylltiad â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;
b
mewn unrhyw achos arall, mewn cysylltiad â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo.
Myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliadI286
1
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y lleoliad y mae myfyriwr cymwys yn byw ynddo yn ystod pob chwarter y mae grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy i’r myfyriwr mewn cysylltiad ag ef (gweler paragraff 3 o Atodlen 1).
2
Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’n byw ynddo am y cyfnod hwyaf.
3
Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad am gyfnod cyfartal yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’r gyfradd uchaf o fenthyciad cynhaliaeth neu grant cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas ag ef.
Cadarnhad o bresenoldebI387
1
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 85 oni bai eu bod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod academaidd bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar gyfer y flwyddyn academaidd.
2
Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gadarnhad—
a
bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar y cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd, mewn achos pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs—
i
ac eithrio am y tro cyntaf,
ii
am y tro cyntaf os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad, neu
iii
am y tro cyntaf os oes gan y myfyriwr anabledd, neu
b
bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs, mewn achos—
i
pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs am y tro cyntaf, a
ii
pan na fo’r myfyriwr wedi trosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad.
3
Ond caniateir gwneud taliad cyn i Weinidogion Cymru gael y cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—
a
os yw’r taliad yn swm o grant myfyriwr anabl, neu
b
os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.
Penderfynu ar y swm sy’n daladwy ar ôl i daliad gael ei wneudI488
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ar swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys (boed hynny o ganlyniad i ddiwygio penderfyniad dros dro neu fel arall) ar ôl i daliad o unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant gael ei wneud.
2
Os yw’r penderfyniad yn cynyddu swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol yn y rhandaliadau hynny, neu mewn un cyfandaliad, y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
3
Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw grant sy’n daladwy—
a
didynnir swm y gostyngiad o weddill y grant sydd eto i gael ei dalu;
b
os yw’r gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i gael ei dalu—
i
gostyngir gweddill y swm hwnnw sydd eto i gael ei dalu i ddim,
ii
mae gweddill y gostyngiad, os oes un, i’w ddidynnu o weddill unrhyw grant arall sydd eto i gael ei dalu, a
iii
os oes unrhyw swm o’r gostyngiad sy’n weddill o hyd, mae i’w drin fel gordaliad.
4
Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy (“y cyfanswm newydd sy’n daladwy”)—
a
pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn fwy na swm y benthyciad cynhaliaeth y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, mae unrhyw swm ychwanegol y caiff y myfyriwr wneud cais amdano wedi ei ostwng yn unol â hynny;
b
pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na’r swm y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ni chaiff y myfyriwr wneud cais am unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth;
c
pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na gweddill y benthyciad cynhaliaeth sydd eto i gael ei dalu—
i
gostyngir gweddill y swm sydd eto i gael ei dalu i ddim, a
ii
mae’r rhan honno o’r swm sydd eisoes wedi cael ei dalu sy’n fwy na’r cyfanswm newydd sy’n daladwy, os oes un, i’w thrin fel gordaliad.