xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 13LL+CTALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 4LL+CGORDALIADAU AC ADENNILL

Gordaliadau – cyffredinolLL+C

89.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at ffioedd dysgu oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Pan fo myfyriwr cymwys wedi cael swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n fwy na’r swm y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i’w gael o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

(3Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at fyfyriwr cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth ond nad yw’n fyfyriwr cymwys neu nad yw’n fyfyriwr cymwys mwyach.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 89 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Adennill grantiau sydd wedi cael eu gordaluLL+C

90.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.

(2Mae taliad o grant sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd o dan sylw yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.

(3Mae taliad o grant myfyriwr anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae swm o’r grant wedi cael ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.

Achos 2

Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.

(4Caniateir adennill gordaliad o grant drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(5Pan—

(a)bo gordaliad o grant myfyriwr anabl, a

(b)bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,

caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 90 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Adennill benthyciadau cynhaliaeth sydd wedi cael eu gordaluLL+C

[F191.  Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—

(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(c)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 91 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)