RHAN 14CYFYNGIADAU AR DALIADAU A’R SYMIAU SY’N DALADWY
PENNOD 1CYFYNGIADAU SY’N YMWNEUD Â BENTHYCIADAU CYNHALIEATH A GRANTIAU
Gofyniad i’r taliad gael ei wneud i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladuI192
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau o fenthyciad cynhaliaeth neu grant drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.
2
Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad neu’r grant hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.
Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carcharI293
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
a
y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
b
sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.
F12
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
3
Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—
a
y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;
b
pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.
Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldebI394
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
a
y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
b
sy’n peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol am unrhyw gyfnod yn ystod y flwyddyn academaidd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel bod yn absennol).
F22
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.
3
Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—
a
y rhesymau dros absenoldeb y myfyriwr cymwys,
b
hyd yr absenoldeb, ac
c
unrhyw galedi ariannol a all gael ei achosi drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy.
4
Nid yw myfyriwr cymwys i’w drin fel pe bai’n absennol at ddibenion y rheoliad hwn o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
a
pan fo’r absenoldeb oherwydd salwch ac am gyfnod nad yw’n hwy na 60 diwrnod;
b
pan fo’r cwrs presennol yn gwrs gradd cywasgedig, unrhyw ran o’r flwyddyn academaidd pan nad yw’n ofynnol i’r myfyriwr fod yn bresennol yn y sefydliad;
c
pan fo gan y myfyriwr anabledd ond na fo’n gallu bod yn bresennol yn y sefydliad am reswm sy’n ymwneud â’r anabledd hwnnw;
d
pan fo’r myfyriwr ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus;
e
pan fo’r absenoldeb am fod y myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor (gweler rheoliad 93).
Taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynuI495
F31
Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
3
Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo—
a
swm o grant yn daladwy i fyfyriwr cymwys (“P”) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
b
cyfnod cymhwystra P yn dod i ben neu’n cael ei derfynu ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
a
swm y grant a fyddai, pe na bai cymhwystra P wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm llawn”), a
b
cyfran y swm llawn a fyddai’n daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau’r cyfnod talu hwnnw ac sy’n gorffen pan ddaeth cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm rhannol”).
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a grybwyllir ym mharagraff (6)—
a
pan fônt wedi gwneud taliad i P o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu,
b
pan fo’r taliad wedi ei wneud cyn i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, ac
c
pan fo’r swm a delir yn fwy na’r swm rhannol.
6
Nod y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw naill ai—
a
gostwng swm y grant sy’n daladwy i P yn ôl y swm dros ben y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) (ac yn unol â hynny, trin y swm dros ben fel gordaliad), neu
b
os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol, estyn cyfnod cymhwystra P mewn cysylltiad â’r grant hyd ddiwedd y cyfnod talu (ac yn unol â hynny, mae’r swm llawn yn daladwy).
7
Pan—
a
bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad i P, neu y maent i fod i wneud taliad iddo, o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu, a
b
bo’r taliad—
i
wedi ei wneud neu i fod i gael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, neu
ii
wedi ei wneud cyn hynny ac nad yw’n fwy na’r swm rhannol,
swm y grant sy’n daladwy yw’r swm rhannol oni bai bod paragraff (8) yn gymwys.
8
O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7), o ran Gweinidogion Cymru—
a
cânt benderfynu bod cyfnod cymhwystra P yn cael ei estyn i ddiwedd y cyfnod talu o dan sylw (ac yn unol â hynny, mae swm llawn y grant yn daladwy) os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny, a
b
rhaid iddynt benderfynu felly os yw swm y grant o dan sylw yn swm grant myfyriwr anabl a delir mewn cysylltiad â gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol.
9
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod talu” yw cyfnod (pa un a yw’n flwyddyn academaidd gyfan neu chwarter o flwyddyn academaidd) y mae fenthyciad cynhaliaeth neu grant yn daladwy, neu y byddai’n daladwy, mewn cysylltiad ag ef oni bai am y ffaith bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.
PENNOD 2CYFYNGIADAU SY’N YMWNEUD Â BETHYCIADAU
Gofyniad i ddarparu rhif yswiriant gwladolI596
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth fod yn rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
2
Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
Gofynion gwybodaeth sy’n ymwneud â benthyciadauI697
1
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan reoliad 35(1) at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’n darparu esboniad boddhaol dros beidio â gwneud hynny.
2
Y dibenion yw—
a
penderfynu a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael benthyciad;
b
penderfynu ar swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr;
c
unrhyw fater sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad gan y myfyriwr.