xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
96.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth fod yn rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 96 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
97.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan reoliad 35(1) at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’n darparu esboniad boddhaol dros beidio â gwneud hynny.
(2) Y dibenion yw—
(a)penderfynu a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael benthyciad;
(b)penderfynu ar swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr;
(c)unrhyw fater sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad gan y myfyriwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 97 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)