Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/04/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
12.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â rheoliad [F119, 20, 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D neu 23E].
(2) Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.
(3) Ond—
(a)os yw’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser neu’n gwrs rhyngosod, a
(b)os yw rheoliad 14, 15 neu 16 yn gymwys i’r myfyriwr,
mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ar gyfer y cwrs wedi ei gyfyngu i’r cyfnod cymhwystra hwyaf a bennir yn y rheoliad cymwys ar gyfer y categori o gymorth a bennir yn y rheoliad hwnnw.
(4) Pan fo cymhwystra myfyriwr i gael cymorth wedi ei gyfyngu o dan reoliad 14, 15 neu 16 fel bod nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r categori o gymorth a bennir yn y rheoliad o dan sylw ar gael mewn cysylltiad â hwy yn llai na chyfnod arferol y cwrs presennol, mae’r categori o gymorth sydd wedi ei bennu felly ar gael mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd diweddaraf y cwrs.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 12(1) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 117
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
13. Pan fo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 am sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 13 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a
(b)nad yw wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth [F2neu] grant at deithioF3... yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Cyfnod arferol y cwrs presennol.
Plws
Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.
Plws
Un flwyddyn.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn rhl. 14(2) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 3(a)
F3Geiriau yn rhl. 14(2) wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 3(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a
(b)sydd wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu grant at deithio yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Cyfnod arferol y cwrs presennol.
Plws
Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.
Plws
Un flwyddyn.
Llai
Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs neu’r cyrsiau blaenorol (os yw’r myfyriwr wedi ymgymryd â mwy nag un cwrs blaenorol).
Ond nid yw didyniad i’w wneud os yw’r myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu os yw’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.
(3) Os na chwblhaodd y myfyriwr cymwys y cwrs blaenorol diweddaraf yn llwyddiannus am resymau personol anorchfygol—
(a)mae un flwyddyn ychwanegol i’w hadio at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2), a
(b)caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r rhesymau hynny.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
(5) Pan fo’r rheoliad hwn a rheoliad 16 yn gymwys i fyfyriwr cymwys, mae cyfnod cymhwystra hwyaf y myfyriwr i gael—
(a)benthyciad at ffioedd dysgu,
(b)grant sylfaenol,
(c)grant cynhaliaeth, neu
(d)grant at deithio
i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 16.
(6) Ym mharagraff (2), ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” yw myfyriwr nad yw’n athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na 2 flynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cymwys y mae ei gwrs presennol yn gwrs penben llawnamser (cyfeirir at y cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef ym mharagraff (2) fel y “cwrs rhagarweiniol”);
(b)myfyriwr cymwys—
[F4(i)sydd wedi cwblhau cwrs perthnasol (y “cwrs rhagarweiniol”),]
(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol; a
(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol;
(c)myfyriwr cymwys—
(i)sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser [F5neu gwrs gradd arferol] (y “cwrs rhagarweiniol”),
(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd anrhydedd llawnamser na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol, a
(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, [F6neu] grant at deithio F7... yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Tair blynedd neu gyfnod arferol y cwrs presennol, pa un bynnag yw’r hwyaf.
Plws
Un flwyddyn neu’r cyfnod arferol llai un flwyddyn o’r cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol os cwblhaodd y myfyriwr fwy nag un cwrs sydd i’w drin yn gwrs rhagarweiniol), pa un bynnag yw’r hwyaf.
Llai
Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs rhagarweiniol (neu’r cyrsiau rhagarweiniol) ac eithrio blynyddoedd sydd wedi eu hailadrodd gan y myfyriwr cymwys am resymau personol anorchfygol.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
[F8(4) Ym mharagraff (1)(b)(i), ystyr “cwrs perthnasol” yw cwrs llawnamser ar gyfer—
(a)y Diploma Addysg Uwch,
(b)y Dystysgrif Addysg Uwch, neu
(c)Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch naill ai’r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau’r Alban.]
Diwygiadau Testunol
F4Rhl. 16(1)(b)(i) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(a)
F5Geiriau yn rhl. 16(1)(c)(i) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(b)
F6Gair yn rhl. 16(2) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(c)(i)
F7Geiriau yn rhl. 16(2) wedi eu hepgor (30.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(c)(ii)
F8Rhl. 16(4) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 4(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) At ddibenion rheoliadau 12 a 14 i 16, ystyr “cyfnod arferol” cwrs yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i’w gwblhau.
(2) At ddibenion cyfrifo—
(a)cyfnod cymhwystra hwyaf myfyriwr o dan reoliad 14(2), 15(2) neu 16(2), neu
(b)a yw cyfnod cymhwystra myfyriwr wedi dod i ben,
mae unrhyw flwyddyn rannol yr ymgymerodd y myfyriwr â hi i’w chyfrif fel blwyddyn academaidd gyfan.
(3) Yn rheoliadau 14 a 15, ystyr “cwrs blaenorol” yw cwrs—
(a)sy’n—
(i)cwrs addysg uwch llawnamser, neu
(ii)cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon,
y dechreuodd y myfyriwr ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol,
(b)sy’n bodloni un o’r amodau a nodir ym mharagraff (4), ac
(c)nad yw wedi ei eithrio rhag bod yn gwrs blaenorol yn rhinwedd paragraff (5), (6) neu (7).
(4) Yr amodau yw—
Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn sefydliad addysgol cydnabyddedig am rai neu bob un o’r blynyddoedd academaidd pan oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.
Mae’r cwrs yn un—
y talwyd mewn perthynas ag ef ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs i dalu ffioedd, a
y darparwyd y taliad mewn perthynas ag ef gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.
(5) Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—
(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, a
(b)os nad yw’r myfyriwr yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
(6) Nid yw cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—
(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, a
(b)os—
(i)trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu
(ii)dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg.
(7) Nid yw cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg yn gwrs blaenorol—
(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg, a
(b)os—
(i)trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu
(ii)dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys (“P”)—
(a)y mae ei gyfnod cymhwystra hwyaf i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 15 neu 16,
(b)sydd wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—
(i)cwrs blaenorol yr ymgymerodd P ag ef, a
(ii)unrhyw gymwysterau sydd gan P, ac
(c)sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan cyfnod cymhwystra hwyaf anghywir.
(2) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan P yn sylweddol anghywir.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 18 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: