RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL
PENNOD 2CYMHWYSTRA
ADRAN 1Myfyrwyr cymwys
Myfyrwyr cymwysI19
1
Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—
a
os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2 ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person, neu
b
os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir yn rheoliad 11.
2
Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg.
Myfyrwyr cymwys - EithriadauI210
1
Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Pan fo’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser, mae dyfarndal o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Dyfarndaliadau Mandadol) 200310 wedi cael ei roi i P mewn cysylltiad â’r cwrs.
Eithriad 2
Pan fo’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser, mae P yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs dynodedig o dan Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199011.
Eithriad 3
Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—
a
pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser—
i
bwrsari gofal iechyd, nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P (oni bai ei fod yn grant bwrsari at gostau byw), neu
ii
lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 200712;
b
pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser—
i
bwrsari gofal iechyd (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio),
ii
lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007, neu
iii
lwfans gofal iechyd yr Alban (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio).
Eithriad 4
Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Eithriad 5
Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.
Eithriad 6
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael cymorth.
Eithriad 7
Mae P yn garcharor.
Ond caiff P fod yn fyfyriwr cymwys er ei fod yn garcharor—
a
os yw cais P am gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi,
b
os yw cwrs presennol P yn gwrs penben llawnamser, neu
c
os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs presennol a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Yn Eithriad 3, mae “grant bwrsari at gostau byw” yn grant at gostau byw sy’n cael ei roi ar gael o dan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
3
Yn Eithriadau 4 a 5, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—
a
Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 199013;
b
Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;
c
Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199014;
d
Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199815;
e
rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;
f
y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan Ddeddf 1998.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan—
ystyr “Cronfa Cymorth Dysgu” (“Learning Support Fund”) yw’r gronfa sy’n cael ei rhoi ar gael gan GIG Lloegr i fyfyrwyr penodol mewn cysylltiad â chyrsiau gofal iechyd cymhwysol;
ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 198018 a roddir mewn cysylltiad â phresenoldeb P ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel meddyg neu ddeintydd.
Myfyrwyr cymwys sy’n parhau ar gwrsI311
1
Mae paragraff (2) yn gymwys i berson (“P”) —
a
os yw amgylchiadau P yn dod o fewn un o’r achosion ym mharagraff (3), a
b
os nad yw Eithriad 3 yn rheoliad 10 yn gymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn y mae P yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae P yn fyfyriwr cymwys ac yn unol â hynny—
a
nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyriwr a nodir yn Atodlen 2, a
b
nid yw unrhyw un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 (ac eithrio Eithriad 3) yn rhwystro P rhag bod yn fyfyriwr cymwys.
3
Yr achosion yw—
Achos 1
a
roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o gwrs presennol P, ac
b
roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw.
Achos 2
a
mae cwrs presennol P yn gwrs penben,
b
roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs (y “cwrs cynharach”) y mae cwrs presennol P yn gwrs penben mewn perthynas ag ef,
c
dim ond oherwydd bod P wedi cwblhau’r cwrs cynharach hwnnw y daeth cyfnod cymhwystra P ar gyfer y cwrs i ben, a
d
roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.
Achos 3
a
roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs presennol,
b
mae statws P fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs presennol (gweler adran 5), ac
c
roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.