RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 3Terfynu cymhwystra

Terfynu cymhwystra yn gynnarI119

1

Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—

a

pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 28, neu

b

pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

2

Pan—

a

bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a

b

bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

3

Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Camymddwyn a methu â darparu gwybodaeth gywirI220

1

Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.

2

Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—

a

wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu

b

wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.

3

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

a

terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;

b

penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Adfer cymhwystra ar ôl iddo derfynuI321

1

Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 19 neu 20 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

2

Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol ag Adran 2 o’r Bennod hon.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 21 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i benI422

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

ii

ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

iii

ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—

i

P, neu

ii

y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr cymwys Categori 2,

wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)19.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

3

Yn y rheoliad hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i benI523

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

i

ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

ii

ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

iii

ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

b

pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

i

P, neu

ii

y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.