RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL
PENNOD 2CYMHWYSTRA
ADRAN 3Terfynu cymhwystra
Terfynu cymhwystra yn gynnarI119
1
Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
a
pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 28, neu
b
pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.
2
Pan—
a
bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a
b
bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
3
Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.
Camymddwyn a methu â darparu gwybodaeth gywirI320
1
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.
2
Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
a
wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu
b
wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
3
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
a
terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
b
penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.
Adfer cymhwystra ar ôl iddo derfynuI421
1
Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 19 neu 20 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
2
Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol ag Adran 2 o’r Bennod hon.
Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i benI522
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
ii
ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
iii
ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—
i
P, neu
ii
y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr cymwys Categori 2,
wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)19.
2
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
3
Yn y rheoliad hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.
F2Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben22A
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
ii
ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
iii
ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
i
P, neu
ii
y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 2A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.
2
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i benI223
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
ii
ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
iii
ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
i
P, neu
ii
y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
2
Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
F1Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben23A
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
ii
ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
iii
ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
i
P, neu
ii
y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3A,