19.—(1) Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 28, neu
(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.
(2) Pan—
(a)bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a
(b)bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
20.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
21.—(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 19 neu 20 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
(2) Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol ag Adran 2 o’r Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 21 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
22.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—
(i)P, neu
(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr cymwys Categori 2,
wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(1).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
22A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 2A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 22A wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 5
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 23 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
23A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 23A wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 43
2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.