xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2LL+CCYMHWYSTRA

ADRAN 3LL+CTerfynu cymhwystra

Terfynu cymhwystra yn gynnarLL+C

19.—(1Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—

(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 28, neu

(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(2Pan—

(a)bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a

(b)bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

[F1(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd—

(a)bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, neu

(b)nad yw P yn gallu bod yn y Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Camymddwyn a methu â darparu gwybodaeth gywirLL+C

20.—(1Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—

(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu

(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.

(3Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Adfer cymhwystra ar ôl iddo derfynuLL+C

21.—(1Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 19 neu 20 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.

(2Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol ag Adran 2 o’r Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 21 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i benLL+C

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—

(i)P, neu

(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr cymwys Categori 2,

wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(1).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F2Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i benLL+C

22A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 2A,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.]

Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i benLL+C

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) [F3yn fyfyriwr cymwys Categori 3 neu’n fyfyriwr cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo (gweler Atodlen 2)] mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3 [F4neu’n fyfyriwr cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo] ,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

[F5Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i benLL+C

23A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3A,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.]

Diwygiadau Testunol

F5Rhl. 23A wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 43

(1)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.