- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—
(a)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2 ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person, neu
(b)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir yn rheoliad 11.
(2) Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg.
10.—(1) Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Pan fo’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser, mae dyfarndal o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Dyfarndaliadau Mandadol) 2003(1) wedi cael ei roi i P mewn cysylltiad â’r cwrs.
Pan fo’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser, mae P yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs dynodedig o dan Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(2).
Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—
(a)pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser—
(i)bwrsari gofal iechyd, nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P (oni bai ei fod yn grant bwrsari at gostau byw), neu
(ii)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(3);
(b)pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser—
(i)bwrsari gofal iechyd (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio),
(ii)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007, neu
(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban (pa un a yw wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm P ai peidio).
Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael cymorth.
Mae P yn garcharor.
Ond caiff P fod yn fyfyriwr cymwys er ei fod yn garcharor—
(a)os yw cais P am gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi,
(b)os yw cwrs presennol P yn gwrs penben llawnamser, neu
(c)os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs presennol a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn Eithriad 3, mae “grant bwrsari at gostau byw” yn grant at gostau byw sy’n cael ei roi ar gael o dan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
(3) Yn Eithriadau 4 a 5, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—
(a)Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(4);
(b)Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;
(c)Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(5);
(d)Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(6);
(e)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;
(f)y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan Ddeddf 1998.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan—
ystyr “Cronfa Cymorth Dysgu” (“Learning Support Fund”) yw’r gronfa sy’n cael ei rhoi ar gael gan GIG Lloegr i fyfyrwyr penodol mewn cysylltiad â chyrsiau gofal iechyd cymhwysol;
ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(9) a roddir mewn cysylltiad â phresenoldeb P ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel meddyg neu ddeintydd.
11.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i berson (“P”) —
(a)os yw amgylchiadau P yn dod o fewn un o’r achosion ym mharagraff (3), a
(b)os nad yw Eithriad 3 yn rheoliad 10 yn gymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn y mae P yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae P yn fyfyriwr cymwys ac yn unol â hynny—
(a)nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyriwr a nodir yn Atodlen 2, a
(b)nid yw unrhyw un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 (ac eithrio Eithriad 3) yn rhwystro P rhag bod yn fyfyriwr cymwys.
(3) Yr achosion yw—
(a)roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o gwrs presennol P, ac
(b)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw.
(a)mae cwrs presennol P yn gwrs penben,
(b)roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs (y “cwrs cynharach”) y mae cwrs presennol P yn gwrs penben mewn perthynas ag ef,
(c)dim ond oherwydd bod P wedi cwblhau’r cwrs cynharach hwnnw y daeth cyfnod cymhwystra P ar gyfer y cwrs i ben, a
(d)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.
(a)roedd P yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs presennol,
(b)mae statws P fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs presennol (gweler adran 5), ac
(c)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.
12.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â rheoliad 19, 20, 22 neu 23.
(2) Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.
(3) Ond—
(a)os yw’r cwrs dynodedig yn gwrs llawnamser neu’n gwrs rhyngosod, a
(b)os yw rheoliad 14, 15 neu 16 yn gymwys i’r myfyriwr,
mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ar gyfer y cwrs wedi ei gyfyngu i’r cyfnod cymhwystra hwyaf a bennir yn y rheoliad cymwys ar gyfer y categori o gymorth a bennir yn y rheoliad hwnnw.
(4) Pan fo cymhwystra myfyriwr i gael cymorth wedi ei gyfyngu o dan reoliad 14, 15 neu 16 fel bod nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r categori o gymorth a bennir yn y rheoliad o dan sylw ar gael mewn cysylltiad â hwy yn llai na chyfnod arferol y cwrs presennol, mae’r categori o gymorth sydd wedi ei bennu felly ar gael mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd diweddaraf y cwrs.
13. Pan fo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 am sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a
(b)nad yw wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, grant myfyriwr anabl, grant at deithio neu grant ar gyfer dibynyddion yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Cyfnod arferol y cwrs presennol.
Plws
Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.
Plws
Un flwyddyn.
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser neu gwrs rhyngosod, a
(b)sydd wedi ymgymryd â chwrs blaenorol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu grant at deithio yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Cyfnod arferol y cwrs presennol.
Plws
Nifer y blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi eu hailadrodd am resymau personol anorchfygol.
Plws
Un flwyddyn.
Llai
Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs neu’r cyrsiau blaenorol (os yw’r myfyriwr wedi ymgymryd â mwy nag un cwrs blaenorol).
Ond nid yw didyniad i’w wneud os yw’r myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu os yw’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.
(3) Os na chwblhaodd y myfyriwr cymwys y cwrs blaenorol diweddaraf yn llwyddiannus am resymau personol anorchfygol—
(a)mae un flwyddyn ychwanegol i’w hadio at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2), a
(b)caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r rhesymau hynny.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
(5) Pan fo’r rheoliad hwn a rheoliad 16 yn gymwys i fyfyriwr cymwys, mae cyfnod cymhwystra hwyaf y myfyriwr i gael—
(a)benthyciad at ffioedd dysgu,
(b)grant sylfaenol,
(c)grant cynhaliaeth, neu
(d)grant at deithio
i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 16.
(6) Ym mharagraff (2), ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” yw myfyriwr nad yw’n athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na 2 flynedd.
16.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)myfyriwr cymwys y mae ei gwrs presennol yn gwrs penben llawnamser (cyfeirir at y cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef ym mharagraff (2) fel y “cwrs rhagarweiniol”);
(b)myfyriwr cymwys—
(i)sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser ar gyfer y Diploma Addysg Uwch neu ar gyfer y Diploma Cenedlaethol Uwch neu’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch a ddyfernir gan naill ai’r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau’r Alban (y “cwrs rhagarweiniol”),
(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol; a
(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol;
(c)myfyriwr cymwys—
(i)sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser (y “cwrs rhagarweiniol”),
(ii)y mae ei gwrs presennol yn gwrs gradd anrhydedd llawnamser na ddechreuodd y myfyriwr arno yn union ar ôl y cwrs rhagarweiniol, a
(iii)nad yw wedi ymgymryd â chwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs rhagarweiniol a chyn y cwrs presennol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, y cyfnod cymhwystra hwyaf ar gyfer benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth, grant myfyriwr anabl, grant at deithio neu grant ar gyfer dibynyddion yw’r cyfnod sydd wedi ei gyfrifo fel a ganlyn—
Tair blynedd neu gyfnod arferol y cwrs presennol, pa un bynnag yw’r hwyaf.
Plws
Un flwyddyn neu’r cyfnod arferol llai un flwyddyn o’r cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol os cwblhaodd y myfyriwr fwy nag un cwrs sydd i’w drin yn gwrs rhagarweiniol), pa un bynnag yw’r hwyaf.
Llai
Nifer y blynyddoedd academaidd yr ymgymerodd y myfyriwr cymwys â hwy ar y cwrs rhagarweiniol (neu’r cyrsiau rhagarweiniol) ac eithrio blynyddoedd sydd wedi eu hailadrodd gan y myfyriwr cymwys am resymau personol anorchfygol.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod rheoliad 18 yn gymwys i fyfyriwr, cânt adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol at y cyfrifiad a wneir o dan baragraff (2) fel y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
17.—(1) At ddibenion rheoliadau 12 a 14 i 16, ystyr “cyfnod arferol” cwrs yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ofynnol fel arfer i’w gwblhau.
(2) At ddibenion cyfrifo—
(a)cyfnod cymhwystra hwyaf myfyriwr o dan reoliad 14(2), 15(2) neu 16(2), neu
(b)a yw cyfnod cymhwystra myfyriwr wedi dod i ben,
mae unrhyw flwyddyn rannol yr ymgymerodd y myfyriwr â hi i’w chyfrif fel blwyddyn academaidd gyfan.
(3) Yn rheoliadau 14 a 15, ystyr “cwrs blaenorol” yw cwrs—
(a)sy’n—
(i)cwrs addysg uwch llawnamser, neu
(ii)cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon,
y dechreuodd y myfyriwr ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol,
(b)sy’n bodloni un o’r amodau a nodir ym mharagraff (4), ac
(c)nad yw wedi ei eithrio rhag bod yn gwrs blaenorol yn rhinwedd paragraff (5), (6) neu (7).
(4) Yr amodau yw—
Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd yn sefydliad addysgol cydnabyddedig am rai neu bob un o’r blynyddoedd academaidd pan oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.
Mae’r cwrs yn un—
y talwyd mewn perthynas ag ef ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs i dalu ffioedd, a
y darparwyd y taliad mewn perthynas ag ef gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.
(5) Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—
(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, a
(b)os nad yw’r myfyriwr yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
(6) Nid yw cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg sy’n dod o fewn paragraff (3)(a) a (b) er hynny yn gwrs blaenorol—
(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, a
(b)os—
(i)trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu
(ii)dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg.
(7) Nid yw cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg yn gwrs blaenorol—
(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg, a
(b)os—
(i)trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, neu
(ii)dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.
18.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys (“P”)—
(a)y mae ei gyfnod cymhwystra hwyaf i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 15 neu 16,
(b)sydd wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—
(i)cwrs blaenorol yr ymgymerodd P ag ef, a
(ii)unrhyw gymwysterau sydd gan P, ac
(c)sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan cyfnod cymhwystra hwyaf anghywir.
(2) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan P yn sylweddol anghywir.
19.—(1) Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 28, neu
(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.
(2) Pan—
(a)bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a
(b)bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.
20.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.
21.—(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 19 neu 20 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
(2) Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol ag Adran 2 o’r Bennod hon.
22.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—
(i)P, neu
(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr cymwys Categori 2,
wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(10).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
24.—(1) Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person â gradd anrhydedd”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu, grant sylfaenol, grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr—
(a)yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2), a
(b)ym mhob Achos, yn bodloni’r amodau cymhwyso penodol sy’n ymwneud â’r cymorth o dan sylw.
(2) Yr Achosion yw—
Caiff person â gradd anrhydedd gymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn os yw’r cwrs presennol yn—
(a)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na dwy flynedd, ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig, neu’n
(b)cwrs mynediad graddedig carlam.
Caiff person â gradd anrhydedd gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth os yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—
(a)mae’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;
(b)mae’r person graddedig i gael unrhyw daliad o dan—
(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig, neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person graddedig mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol;
(c)mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
Er gwaethaf paragraff (1)—
(a)os ystyrir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl yn rhinwedd rheoliad 6(3) a (4), a
(b)os yw’r cwrs yn arwain at roi gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymhwyster cyfatebol,
nid yw rhoi’r radd anrhydedd honno yn rhwystro’r myfyriwr rhag cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r cwrs sengl hwnnw.
Mae rheoliad 26 yn gymwys.
25.—(1) Os yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser wedi cael gradd gyntaf o sefydliad yn y Deyrnas Unedig (“person graddedig”), nid yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl oni bai bod y myfyriwr yn dod o fewn un o’r Achosion a nodir ym mharagraff (2).
(2) Yr Achosion yw—
O ran y radd gyntaf—
(a)nid gradd anrhydedd ydoedd; a
(b)fe’i dyfarnwyd i’r person graddedig ar ôl iddo gwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad a oedd yn ofynnol ar gyfer y radd gyntaf honno,
ac mae’r person graddedig yn ymgymryd â’r cwrs presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, yr arholiadau neu’r mathau eraill o asesiad sy’n ofynnol (pa un a yw’r person graddedig yn parhau i wneud y cwrs yn yr un sefydliad a ddyfarnodd y radd gyntaf iddo ai peidio).
Mae’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon nad yw’n para’n hwy na phedair blynedd ac nid yw’r person graddedig yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd a naill ai’n—
(a)cwrs sy’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni; neu’n
(b)cwrs sydd wedi ei restru yn y System Cyd-godio Pynciau Academaidd yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—
(i)peirianneg;
(ii)technoleg;
(iii)cyfrifiadureg;
(iv)pynciau perthynol i feddygaeth;
(v)y gwyddorau biolegol;
(vi)milfeddygaeth, amaethyddiaeth a phynciau cysylltiedig;
(vii)y gwyddorau ffisegol;
(viii)y gwyddorau mathemategol.
Mae rheoliad 26 yn gymwys.
(3) Yn Achos 3, ystyr “y System Cyd-godio Pynciau Academaidd” yw fersiwn 3 o’r System Cyd-godio Pynciau Academaidd a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(11).
26.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo person â gradd anrhydedd o fewn ystyr rheoliad 24 neu berson graddedig o fewn ystyr rheoliad 25 (“G”) wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd anrhydedd neu, yn ôl y digwydd, radd gyntaf, a ddyfarnwyd i’r person o’r blaen, a
(b)pan fo G yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru sy’n datgan yn anghywir fod G yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff G gymhwyso i gael y cymorth a bennir yn yr hysbysiad am y cyfnod hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.
(3) Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw’r hysbysiad yn anghywir oherwydd bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan G yn sylweddol anghywir.
27.—(1) Nid yw myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser yn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio grant myfyriwr anabl os yw’r myfyriwr—
(a)wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau rhan-amser am gyfnod cyfanredol o—
(i)8 mlynedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny cyn 1 Medi 2014), neu
(ii)16 o flynyddoedd academaidd o leiaf (pan ddechreuodd y cwrs hwnnw neu’r cwrs cynharaf o’r cyrsiau hynny ar neu ar ôl 1 Medi 2014), a
(b)wedi cael cymorth perthnasol mewn cysylltiad ag o leiaf 8 neu, yn ôl y digwydd, 16 o’r blynyddoedd academaidd hynny o’r cwrs rhan-amser neu’r cyrsiau rhan-amser.
(2) Ym mharagraff (1)(b), ystyr “cymorth perthnasol” yw—
(a)benthyciad, grant mewn cysylltiad â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd—
(i)o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu
(ii)o dan reoliadau a wneir o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(12);
(b)benthyciad a wneir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o dan reoliadau a wneir o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(13).
28.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig (yn yr Adran hon, yr “hen gwrs”) i gwrs dynodedig arall (yn yr Adran hon, y “cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—
(a)os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,
(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler paragraff (2)), ac
(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo yw—
Mae’r myfyriwr cymwys yn peidio ag ymgymryd â’r hen gwrs ac yn ymgymryd â’r cwrs newydd yn yr un sefydliad.
Gan gynnwys—
(a)pan na fo’r hen gwrs yn gwrs gradd cywasgedig, os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â’r un cwrs fel cwrs gradd cywasgedig, neu
(b)pan fo’r hen gwrs yn gwrs gradd cywasgedig, os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â’r un cwrs ar y sail nad yw’n gywasgedig.
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs newydd mewn sefydliad arall.
Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, mae’r myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.
Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, mae’r myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg.
Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), mae’r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn yr un sefydliad.
29. Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd, mae swm y benthyciad at ffioedd dysgu sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—
Cyfrifo, yn unol â Rhan 6, symiau’r benthyciad at ffioedd dysgu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—
(a)yr hen gwrs, a
(b)y cwrs newydd,
ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.
Gostwng y symiau hyn yn ôl y gyfran honno y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol ar ôl rhoi sylw i—
(a)y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a
(b)yr angen i sicrhau nad yw unrhyw swm yn daladwy mewn cysylltiad â’r ddau gwrs ar gyfer yr un cyfnod.
30.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd.
(2) Os yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad, rhaid i gyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd gael ei ailasesu yn unol â’r rheoliad hwnnw.
(3) Os nad yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad—
(a)caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd, ond
(b)os na wneir unrhyw ailasesiad, cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi ei asesu fel y swm sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad yn digwydd ar ôl i Weinidogion Cymru asesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs ond cyn i’r myfyriwr gwblhau’r flwyddyn honno.
(5) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y myfyriwr cymwys wneud cais mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs newydd am grant neu fenthyciad arall o fath y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yr hen gwrs (oni bai bod y Rheoliadau hyn yn rhoi caniatâd penodol i wneud hynny).
(6) Pan, yn union cyn y trosglwyddiad—
(a)oedd y myfyriwr cymwys yn gymwys i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn academaidd yr hen gwrs, a
(b)nad oedd y myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am yr uchafswm yr oedd ganddo hawlogaeth i’w gael,
nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad (pa un a yw ailasesiad yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 31 ai peidio).
(7) Pan fo myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi, nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais pellach o’r fath—
(a)at ddiben nad yw’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano, neu
(b)am swm ychwanegol mewn cysylltiad â diben y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano.
31.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan, mewn perthynas â throsglwyddiad o dan reoliad 28—
(a)bo’r hen gwrs yn gwrs llawnamser a bod y cwrs newydd yn gwrs rhan-amser, neu
(b)bo’r hen gwrs yn gwrs rhan-amser a bod y cwrs newydd yn gwrs llawnamser.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd i’w ailasesu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—
Cam 1
Cyfrifo, yn unol â Rhannau 7 i 11, symiau unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—
(a)yr hen gwrs, a
(b)y cwrs newydd,
ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.
Cam 2
Gostwng y symiau hynny drwy eu lluosi â’r ffracsiwn priodol.
Cyfanswm y ddau swm a geir o dan Gam 2 yw cyfanswm y benthyciad cynhaliaeth a’r grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi.
(3) Yng Ngham 2 o baragraff (2), y ffracsiwn priodol mewn perthynas â’r hen gwrs yw’r ffracsiwn pan—
(a)y rhifiadur yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd hyd at a chan gynnwys y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a
(b)yr enwadur yw cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd.
(4) Yng Ngham 2 o baragraff (2), y ffracsiwn priodol mewn perthynas â’r cwrs newydd yw’r ffracsiwn pan—
(a)y rhifiadur yw nifer y diwrnodau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd ar ôl y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a
(b)yr enwadur yw cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd.
(5) Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo dyddiad cychwyn y flwyddyn academaidd ar gyfer y cwrs newydd ar ôl dyddiad cychwyn y flwyddyn academaidd ar gyfer yr hen gwrs, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) at y flwyddyn academaidd yn gyfeiriadau at y flwyddyn academaidd ar gyfer y cwrs newydd.
O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038, O.S. 2004/1792, O.S. 2005/2083, O.S. 2005/3137, O.S. 2005/3482, O.S. 2006/930, O.S. 2007/1629, O.S. 2008/1477, O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2010/1172, O.S. 2011/1043, O.S. 2014/107, O.S. 2016/211 a Deddf Addysg 2005 adran 74.
O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh.St. (G.I.) 1998 Rhif 306.
O.S.A. 2007/151 fel y’i diwygiwyd gan O.S.A. 2007/503, O.S.A. 2008/206, O.S.A. 2009/188, O.S.A. 2009/309, O.S.A. 2012/72, O.S.A. 2013/80 ac O.S.A. 2017/180.
1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).
O.S. 1990/1506 (G.I. 11) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh.St. (G.I.) 1998 Rhif 306.
1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a chan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), adran 82 ac Atodlen 10, paragraff 8(17).
2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.
O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1980 p. 44; mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3) ac Atodlen 8 i Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 2016 (dsa 21).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: