- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
32.—(1) Nid yw person yn cymhwyso i gael cymorth fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y cymorth hwnnw mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,
(b)cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 33.
33.—(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i gais o dan reoliad 32(1) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n ymwneud â hi.
(2) Ond os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir yng Ngholofn 1 o Dabl 1 yn gymwys, rhaid i gais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.
Colofn 1 Amgylchiadau sy’n ymwneud â chais am gymorth | Colofn 2 Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais |
---|---|
Mae’r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd yn dilyn digwyddiad a restrir yn rheoliad 80(2) neu 81(3) neu baragraff 4(2) o Atodlen 5. | Heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o naw mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad yn digwydd. |
Mae’r cais am fenthyciad at ffioedd dysgu, benthyciad cynhaliaeth neu fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge. Mae’r cais am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 42 neu fenthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 60 neu’n fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge o dan baragraff 6(2) o Atodlen 5. | Heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi. |
Mae’r cais am grant myfyriwr anabl. | Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. |
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau achos penodol, ei bod yn briodol estyn y terfyn amser ar gyfer gwneud cais. | Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn yr achos penodol. |
34.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 32.
(2) Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais o dan reoliad 32 (gweler rheoliad 82 am ddarpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).
(4) Caniateir i benderfyniad ar gais a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—
(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu
(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais o dan reoliad 32.
(6) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys,
(b)os felly, a yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,
(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso, gategori’r cymorth y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael a’r swm sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd,
(d)os yw’r cymorth yn cynnwys grant myfyriwr anabl, ddadansoddiad o’r grant hwnnw sy’n pennu’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob math o wariant a grybwyllir yn rheoliad 63(2), ac
(e)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.
35.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru—
(a)at ddibenion penderfynu—
(i)cymhwystra myfyriwr;
(ii)a yw myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth;
(iii)swm y cymorth sy’n daladwy i fyfyriwr;
(iv)a yw gordaliad wedi cael ei wneud i fyfyriwr;
(b)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag adennill gordaliad;
(c)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad;
(d)at unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.
(2) Caniateir i gais o dan baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld—
(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,
(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu
(c)ei dystysgrif geni.
(3) Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.
(4) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);
(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs presennol—
(i)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu
(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs presennol neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod y manylion a ganlyn, sef—
(i)cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,
(ii)rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu
(iii)cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,
yn newid.
(5) Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—
(a)cais o dan reoliad 32;
(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan y Rheoliadau hyn,
yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.
(7) Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr cymwys ym mharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan reoliad 32 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr cymwys.
(8) Gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.
36.—(1) Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.
(2) O ran y contract—
(a)rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a
(b)gall fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),
a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff y contract ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb y myfyriwr ynghylch y dull ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.
37. Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys—
(a)sydd wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol yn ystod y flwyddyn academaidd, a
(b)y mae’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn honno,
rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol fod y myfyriwr wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: