RHAN 5CEISIADAU, DARPARU GWYBODAETH A CHONTRACTAU BENTHYCIADAU

Gofyniad i wneud cais am gymorthI132

1

Nid yw person yn cymhwyso i gael cymorth fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y cymorth hwnnw mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd.

2

Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

a

bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,

b

cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac

c

cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 33.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 32 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Y terfyn amser ar gyfer gwneud caisI233

1

Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i gais o dan reoliad 32(1) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n ymwneud â hi.

2

Ond os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir yng Ngholofn 1 o Dabl 1 yn gymwys, rhaid i gais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl 1

Colofn 1

Amgylchiadau sy’n ymwneud â chais am gymorth

Colofn 2

Y terfyn amser ar gyfer gwneud cais

Mae’r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd yn dilyn digwyddiad a restrir yn rheoliad 80(2) neu 81(3) neu baragraff 4(2) o Atodlen 5.

Heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o naw mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad yn digwydd.

Mae’r cais am fenthyciad at ffioedd dysgu, benthyciad cynhaliaeth neu fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge.

Mae’r cais am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 42 neu fenthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 60 neu’n fenthyciad at ffioedd colegau Oxbridge o dan baragraff 6(2) o Atodlen 5.

Heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi.

Mae’r cais am grant myfyriwr anabl.

Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau achos penodol, ei bod yn briodol estyn y terfyn amser ar gyfer gwneud cais.

Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn yr achos penodol.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 33 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gaisI334

1

Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 32.

2

Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.

3

Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais o dan reoliad 32 (gweler rheoliad 82 am ddarpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).

4

Caniateir i benderfyniad ar gais a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—

a

cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu

b

rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais o dan reoliad 32.

6

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

a

a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys,

b

os felly, a yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

c

os yw’r myfyriwr yn cymhwyso, gategori’r cymorth y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael a’r swm sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn academaidd,

d

os yw’r cymorth yn cynnwys grant myfyriwr anabl, ddadansoddiad o’r grant hwnnw sy’n pennu’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob math o wariant a grybwyllir yn rheoliad 63(2), ac

e

yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 34 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

F134A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fo person (“P”) yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliad 32,

b

pan na fo unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth a ddarparwyd gan P yn y cais, neu mewn cysylltiad ag ef, yn sylweddol anghywir, ac

c

pan fo P yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 34(5) sy’n datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys.

2

Er bod yr hysbysiad yn datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn, drin P fel pe bai’n fyfyriwr cymwys.

Gofynion ar fyfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaethI435

1

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru—

a

at ddibenion penderfynu—

i

cymhwystra myfyriwr;

ii

a yw myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth;

iii

swm y cymorth sy’n daladwy i fyfyriwr;

iv

a yw gordaliad wedi cael ei wneud i fyfyriwr;

b

at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag adennill gordaliad;

c

at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad;

d

at unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.

2

Caniateir i gais o dan baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld—

a

ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,

b

ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu

c

ei dystysgrif geni.

3

Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.

4

Y digwyddiadau yw—

a

bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

b

bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);

c

bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

d

bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs presennol—

i

am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu

ii

am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

e

bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs presennol neu ei gwblhau yn newid;

f

bod y manylion a ganlyn, sef—

i

cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,

ii

rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu

iii

cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,

yn newid.

5

Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

6

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—

a

cais o dan reoliad 32;

b

unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan y Rheoliadau hyn,

yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.

7

Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr cymwys ym mharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan reoliad 32 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr cymwys.

8

Gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 35 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciadI536

1

Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.

2

O ran y contract—

a

rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a

b

gall fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),

a bennir gan Weinidogion Cymru.

3

Caiff y contract ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb y myfyriwr ynghylch y dull ad-dalu, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 36 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofyniad ar awdurdod academaidd i hysbysu pan fo myfyriwr yn ymadael â chwrsI637

Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys—

a

sydd wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol yn ystod y flwyddyn academaidd, a

b

y mae’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn honno,

rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol fod y myfyriwr wedi peidio ag ymgymryd â’r cwrs.