RHAN 6BENTHYCIADAU AT FFIOEDD DYSGU

Benthyciad at ffioedd dysguI138

Benthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ar gyfer talu ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw benthyciad at ffioedd dysgu.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 38 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Amodau cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysguI239

1

Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o gwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.

Eithriad 2

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

a

bwrsari gofal iechyd, neu

b

lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 3

Pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser neu’n gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o’r cwrs a ddarperir gan sefydliad yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

Eithriad 4

F10Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

a

na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

b

na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Swm benthyciad at ffioedd dysguI340

1

Ni chaiff swm benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, neu

b

uchafswm y benthyciad.

2

Cyfrifir uchafswm y benthyciad yn unol â Thabl 2 pan fo—

a

Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn daladwy mewn perthynas â hi;

b

Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn gymwys iddo (gweler paragraff (3));

c

Colofn 3 yn pennu’r math o ddarparwr cwrs, pan—

i

ystyr “darparwr arferol” yw darparwr sy’n dod o fewn Amod 4 o reoliad 6(1);

ii

ystyr “sefydliad preifat” yw sefydliad, nad yw’n sefydliad addysgol cydnabyddedig, sy’n darparu cwrs a bennir yn gwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;

d

Colofn 4 yn pennu lleoliad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs;

e

Colofn 5 yn pennu uchafswm y benthyciad sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2, 3 a 4.

3

Y categorïau o fyfyrwyr a nodir yng Ngholofn 2 yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig nad yw’n dod o fewn Categori 2, 3, 4 F1, 5 neu 6 .

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â’r flwyddyn academaidd olaf o gwrs llawnamser y mae’n ofynnol bod yn bresennol arno fel arfer am lai na 15 wythnos er mwyn ei gwblhau.

Categori 3

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig pan—

a

bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos; neu

b

bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

Categori 4

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan—

a

bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos, neu

b

bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos,

F2...

Categori 5

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.

F3Categori 6

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Tabl 2

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Categori o fyfyriwr

Colofn 3

Math o ddarparwr cwrs

Colofn 4

Lleoliad y darparwr cwrs

Colofn 5

Uchafswm y benthyciad

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi

2018

1

Darparwr arferol

Cymru

£9,000: cwrs llawnamser

£2,625: cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£9,250: cwrs llawnamser

£6,935:cwrs rhan-amser

Sefydliad preifat

Cymru

£6,165: cwrs llawnamser

£2,625 :cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£6,165: cwrs llawnamser

£4,625: cwrs rhan-amser

2

Darparwr arferol

Cymru

£4,500

Mannau eraill yn y DU

£4,625

Sefydliad preifat

Cymru a Mannau eraill yn y DU

£3,080

3

Darparwr arferol

Cymru

£1,800

Lloegr

£1,850

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£4,625

Sefydliad preifat

Cymru a Lloegr

£1,230

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£3,080

4

Darparwr arferol

Cymru

£1,350

Lloegr F6...

£1,385

F5Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£4,625

Sefydliad preifat

F8Cymru a Lloegr

£920

F9Yr Alban a Gogledd Iwerddon

£3,080

5

Darparwr arferol

Cymru a Mannau eraill yn y DU

F7£5,785

F4Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

6

Darparwr arferol

Cymru

£1,350

Lloegr a’r Alban

£1,385

Gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswmI441

Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 41 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cais pellach am fenthyciad at ffioedd dysgu hyd at yr uchafswmI542

Pan—

a

bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 41, neu

b

bo swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,

caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.