xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CBENTHYCIADAU AT FFIOEDD DYSGU

Benthyciad at ffioedd dysguLL+C

38.  Benthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys ar gyfer talu ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw benthyciad at ffioedd dysgu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 38 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Amodau cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysguLL+C

39.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o gwrs a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.

Eithriad 2

Pan na fo’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 3

Pan fo’r cwrs presennol yn gwrs rhan-amser neu’n gwrs mynediad graddedig carlam, mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn Erasmus o’r cwrs a ddarperir gan sefydliad yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

Eithriad 4

[F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 39 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 6

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 39 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Swm benthyciad at ffioedd dysguLL+C

40.—(1Ni chaiff swm benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, neu

(b)uchafswm y benthyciad.

(2Cyfrifir uchafswm y benthyciad yn unol â Thabl 2 pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae uchafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 5 yn gymwys iddo (gweler paragraff (3));

(c)Colofn 3 yn pennu’r math o ddarparwr cwrs, pan—

(i)ystyr “darparwr arferol” yw darparwr sy’n dod o fewn Amod 4 o reoliad 6(1);

(ii)ystyr “sefydliad preifat” yw sefydliad, nad yw’n sefydliad addysgol cydnabyddedig, sy’n darparu cwrs a bennir yn gwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;

(d)Colofn 4 yn pennu lleoliad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs;

(e)Colofn 5 yn pennu uchafswm y benthyciad sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2, 3 a 4.

(3Y categorïau o fyfyrwyr a nodir yng Ngholofn 2 yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig nad yw’n dod o fewn Categori 2, 3, 4 [F2, 5 neu 6] .

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â’r flwyddyn academaidd olaf o gwrs llawnamser y mae’n ofynnol bod yn bresennol arno fel arfer am lai na 15 wythnos er mwyn ei gwblhau.

Categori 3

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig pan—

(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos; neu

(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

Categori 4

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs a ddarperir gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan—

(a)bo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yr ymgymerir â hwy yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd honno yn llai na 10 wythnos, neu

(b)bo swm cyfanredol y cyfnodau a dreulir yn ymgymryd â’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol (nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig), gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos,

F3...

Categori 5

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs mynediad graddedig carlam.

[F4Categori 6

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.]

Tabl 2

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Categori o fyfyriwr

Colofn 3

Math o ddarparwr cwrs

Colofn 4

Lleoliad y darparwr cwrs

Colofn 5

Uchafswm y benthyciad

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi

2018

1Darparwr arferolCymru

£9,000: cwrs llawnamser

£2,625: cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£9,250: cwrs llawnamser

£6,935:cwrs rhan-amser

Sefydliad preifatCymru

£6,165: cwrs llawnamser

£2,625 :cwrs rhan-amser

Mannau eraill yn y DU

£6,165: cwrs llawnamser

£4,625: cwrs rhan-amser

2Darparwr arferolCymru£4,500
Mannau eraill yn y DU£4,625
Sefydliad preifatCymru a Mannau eraill yn y DU£3,080
3Darparwr arferolCymru£1,800
Lloegr£1,850
Yr Alban a Gogledd Iwerddon£4,625
Sefydliad preifatCymru a Lloegr£1,230
Yr Alban a Gogledd Iwerddon£3,080
4Darparwr arferolCymru£1,350
Lloegr F5...£1,385
[F6Yr Alban a] Gogledd Iwerddon£4,625
Sefydliad preifat [F7Cymru a Lloegr]£920
[F8Yr Alban a Gogledd Iwerddon]£3,080
5Darparwr arferolCymru a Mannau eraill yn y DU[F9£5,785]
[F10Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 6Darparwr arferolCymru£1,350
Lloegr a’r Alban£1,385]

Diwygiadau Testunol

F7Geiriau yn rhl. 40 Tabl 2 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 19(a)

F8Geiriau yn rhl. 40 Tabl 2 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/153), rhl. 19(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 40 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswmLL+C

41.  Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 41 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cais pellach am fenthyciad at ffioedd dysgu hyd at yr uchafswmLL+C

42.  Pan—

(a)bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad at ffioedd dysgu o dan reoliad 41, neu

(b)bo swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd dysgu yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,

caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 42 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)