RHAN 7Y GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH
PENNOD 1AMODAU CYMHWYSO
Y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaethI143
Grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ac astudio’r myfyriwr yw’r grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth.
Amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaethI244
1
Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol a grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod y myfyriwr cymwys yn dod o fewn un o’r eithriadau a ganlyn—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
a
bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
b
bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
a
bwrsari gofal iechyd, neu
b
lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam.
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—
a
bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
b
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
c
na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddi).
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i flwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod os yw’r myfyriwr cymwys, fel rhan o’r cwrs, yn ymgymryd ag—
a
cyfnod o brofiad gwaith gyda chorff yn y Deyrnas Unedig a bennir ym mharagraff (3), neu
b
ymchwil di-dâl—
i
mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu
ii
y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o’r cwrs.
3
Y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) yw—
a
ysbyty;
b
labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus;
c
awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol sy’n arfer swyddogaeth neu’n cyflawni gweithgareddau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les;
d
corff sy’n darparu gwasanaethau carchar neu wasanaethau prawf yn y Deyrnas Unedig;
e
corff iechyd a restrir ym mharagraff (4).
4
Y cyrff iechyd yw—
a
b
ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
c
ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
d
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
e
Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197825;
f
y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 200926;
g
yr Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 12 o’r Ddeddf honno;
h
ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol (a enwyd gynt yn ymddiriedolaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 199127;
i
asiantaeth iechyd a gofal cymdeithasol arbennig (a enwyd gynt yn asiantaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol arbennig) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) (Gogledd Iwerddon) 199028;
j
Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno29;
k
y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 201230;
l
y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno.
PENNOD 2Y GRANT SYLFAENOL
Swm y grant sylfaenolI345
Yn Nhabl 3, mae Colofn 2 yn nodi swm y grant sylfaenol sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Y grant sylfaenol sydd ar gael |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £1,000 ar gyfer cwrs llawnamser £1,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser |
PENNOD 3Y GRANT CYNHALIAETH
Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamserI446
1
Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—
a
Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
b
Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
c
Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
2
Pan—
a
na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu
b
bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
3
Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—
a
£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;
b
£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;
c
£5.750 o incwm aelwyd pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.
4
Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamser | Colofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £5,885 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £9,124 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £7,100 |
Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amserI547
1
Mae Tabl 5 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”) pan fo—
a
Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 2 yn daladwy mewn perthynas â hi;
b
Colofn 2 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfatebol yng Ngholofn 1.
2
Os—
a
nad yw incwm aelwyd myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000, neu
b
yw’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw’r uchafswm sydd ar gael wedi ei luosi â dwysedd astudio’r cwrs presennol.
3
Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000 ond yn llai na £59,200, cyfrifir swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel a ganlyn—
Cam 1
Gostwng uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael £1 am bob £6.84 o incwm aelwyd sy’n fwy na £25,000.
Cam 2
Lluosi canlyniad Cam 1 â dwysedd astudio’r cwrs presennol.
Y canlyniad yw swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy.
4
Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £5,000 |
Incwm yr aelwydI648
Gweler Rhan 2 o Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
Ystyr person sy’n ymadael â gofalI749
Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—
a
os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol,
b
os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201431, neu yn rhinwedd yr adran honno, ac
c
os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
i
oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu
ii
oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989)32 mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.
PENNOD 4TALIAD CYMORTH ARBENNIG
Taliad cymorth arbennigI850
1
Pan fo myfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael grant sylfaenol neu, yn ôl y digwydd, grant cynhaliaeth, yn bodloni un o’r amodau cymhwyso yn rheoliad 51—
a
mae’r holl grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys, a
b
mae swm o’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr hyd at yr uchafswm a bennir yn rheoliad 52,
i’w drin fel taliad cymorth arbennig.
2
Mae taliad cymorth arbennig yn daliad a fwriedir er mwyn talu am—
a
cost llyfrau ac offer;
b
treuliau teithio;
c
costau gofal plant,
mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig.
Taliad cymorth arbennig: amodau cymhwysoI951
1
Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni un o’r amodau a ganlyn—
Amod A
Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael cymhorthdal incwm, yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e)33 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
Amod B
Caiff y myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael budd-dal tai, ei drin fel pe bai’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno34.
Amod C
Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael credyd cynhwysol, yn atebol neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 201335 i wneud taliadau mewn cysylltiad â llety y mae’r myfyriwr yn ei feddiannu fel ei gartref.
Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennigI1052
Yn Nhabl 6, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel rhan o daliad cymorth arbennig |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £4,161 ar gyfer cwrs llawnamser £5,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser |