RHAN 7LL+CY GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH

PENNOD 1LL+CAMODAU CYMHWYSO

Y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaethLL+C

43.  Grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ac astudio’r myfyriwr yw’r grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth.

Amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaethLL+C

44.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol a grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod y myfyriwr cymwys yn dod o fewn un o’r eithriadau a ganlyn—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(a)bwrsari gofal iechyd, neu

(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).

Eithriad 4

Mae’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam.

Eithriad 5

Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.

Eithriad 6

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddi).

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i flwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod os yw’r myfyriwr cymwys, fel rhan o’r cwrs, yn ymgymryd ag—

(a)cyfnod o brofiad gwaith gyda chorff yn y Deyrnas Unedig a bennir ym mharagraff (3), neu

(b)ymchwil di-dâl—

(i)mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu

(ii)y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o’r cwrs.

(3Y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) yw—

(a)ysbyty;

(b)labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus;

(c)awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol sy’n arfer swyddogaeth neu’n cyflawni gweithgareddau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les;

(d)corff sy’n darparu gwasanaethau carchar neu wasanaethau prawf yn y Deyrnas Unedig;

(e)corff iechyd a restrir ym mharagraff (4).

(4Y cyrff iechyd yw—

(a)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) neu adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2);

(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(c)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(d)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(e)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);

(f)y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(4);

(g)yr Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 12 o’r Ddeddf honno;

(h)ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol (a enwyd gynt yn ymddiriedolaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(5);

(i)asiantaeth iechyd a gofal cymdeithasol arbennig (a enwyd gynt yn asiantaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol arbennig) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) (Gogledd Iwerddon) 1990(6);

(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno(7);

(k)y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012(8);

(l)y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 44 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CY GRANT SYLFAENOL

Swm y grant sylfaenolLL+C

45.  Yn Nhabl 3, mae Colofn 2 yn nodi swm y grant sylfaenol sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 3

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Y grant sylfaenol sydd ar gael

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£1,000 ar gyfer cwrs llawnamser

£1,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser

PENNOD 3LL+CY GRANT CYNHALIAETH

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamserLL+C

46.—(1Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

(2Pan—

(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu

(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—

(a)£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;

(b)£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;

(c)£5.750 o incwm aelwyd pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 4
Colofn 1 Blwyddyn academaiddColofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamserColofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Byw gartref£5,885
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£9,124
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£7,100

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amserLL+C

47.—(1Mae Tabl 5 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”) pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 2 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfatebol yng Ngholofn 1.

(2Os—

(a)nad yw incwm aelwyd myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000, neu

(b)yw’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw’r uchafswm sydd ar gael wedi ei luosi â dwysedd astudio’r cwrs presennol.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000 ond yn llai na £59,200, cyfrifir swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel a ganlyn—

Cam 1

Gostwng uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael £1 am bob £6.84 o incwm aelwyd sy’n fwy na £25,000.

Cam 2

Lluosi canlyniad Cam 1 â dwysedd astudio’r cwrs presennol.

Y canlyniad yw swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 5

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£5,000

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 47 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm yr aelwydLL+C

48.  Gweler Rhan 2 o Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 48 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Ystyr person sy’n ymadael â gofalLL+C

49.  Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—

(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol,

(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(9), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac

(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu

(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989)(10) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 49 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4LL+CTALIAD CYMORTH ARBENNIG

Taliad cymorth arbennigLL+C

50.—(1Pan fo myfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael grant sylfaenol neu, yn ôl y digwydd, grant cynhaliaeth, yn bodloni un o’r amodau cymhwyso yn rheoliad 51—

(a)mae’r holl grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys, a

(b)mae swm o’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr hyd at yr uchafswm a bennir yn rheoliad 52,

i’w drin fel taliad cymorth arbennig.

(2Mae taliad cymorth arbennig yn daliad a fwriedir er mwyn talu am—

(a)cost llyfrau ac offer;

(b)treuliau teithio;

(c)costau gofal plant,

mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig.

Taliad cymorth arbennig: amodau cymhwysoLL+C

51.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni un o’r amodau a ganlyn—

Amod A

Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael cymhorthdal incwm, yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e)(11) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Amod B

Caiff y myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael budd-dal tai, ei drin fel pe bai’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(12).

Amod C

Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael credyd cynhwysol, yn atebol neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(13) i wneud taliadau mewn cysylltiad â llety y mae’r myfyriwr yn ei feddiannu fel ei gartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 51 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennigLL+C

52.  Yn Nhabl 6, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 6

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel rhan o daliad cymorth arbennig

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£4,161 ar gyfer cwrs llawnamser

£5,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 52 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(7)

2006 p. 41; mewnosodwyd adran 1H ac adran 11 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.

(10)

1989 p. 41; mewnosodwyd adran 14A gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).

(11)

1992 p. 4. Mae diwygiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ac mae’r adran wedi ei diddymu gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 3), adran 147 ac Atodlen 14, Rhan 1 yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2013/358 erthygl 9. Mae’r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi drwy reoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 1997/2197, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/2655, O.S. 2009/3152 ac O.S. 2013/2536.

(12)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ac mae’r adran wedi ei diddymu gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 3) , adran 147 ac Atodlen 14, Rhan 1 yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2013/358 erthygl 9. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 O.S. 2006/213 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2012/757, O.S. 2013/630, O.S. 2013/2070 ac O.S. 2017/901.