xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 7LL+CY GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH

PENNOD 4LL+CTALIAD CYMORTH ARBENNIG

Taliad cymorth arbennigLL+C

50.—(1Pan fo myfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael grant sylfaenol neu, yn ôl y digwydd, grant cynhaliaeth, yn bodloni un o’r amodau cymhwyso yn rheoliad 51—

(a)mae’r holl grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys, a

(b)mae swm o’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr hyd at yr uchafswm a bennir yn rheoliad 52,

i’w drin fel taliad cymorth arbennig.

(2Mae taliad cymorth arbennig yn daliad a fwriedir er mwyn talu am—

(a)cost llyfrau ac offer;

(b)treuliau teithio;

(c)costau gofal plant,

mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 50 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Taliad cymorth arbennig: amodau cymhwysoLL+C

51.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni un o’r amodau a ganlyn—

Amod A

Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael cymhorthdal incwm, yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e)(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Amod B

Caiff y myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael budd-dal tai, ei drin fel pe bai’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(2).

Amod C

Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael credyd cynhwysol, yn atebol neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(3) i wneud taliadau mewn cysylltiad â llety y mae’r myfyriwr yn ei feddiannu fel ei gartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 51 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennigLL+C

52.  Yn Nhabl 6, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 6

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel rhan o daliad cymorth arbennig

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£4,161 ar gyfer cwrs llawnamser

£5,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 52 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(1)

1992 p. 4. Mae diwygiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ac mae’r adran wedi ei diddymu gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 3), adran 147 ac Atodlen 14, Rhan 1 yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2013/358 erthygl 9. Mae’r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi drwy reoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 1997/2197, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/2655, O.S. 2009/3152 ac O.S. 2013/2536.

(2)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ac mae’r adran wedi ei diddymu gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 3) , adran 147 ac Atodlen 14, Rhan 1 yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2013/358 erthygl 9. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 O.S. 2006/213 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2012/757, O.S. 2013/630, O.S. 2013/2070 ac O.S. 2017/901.