43. Grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ac astudio’r myfyriwr yw’r grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 43 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
44.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant sylfaenol a grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod y myfyriwr cymwys yn dod o fewn un o’r eithriadau a ganlyn—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r flwyddyn academaidd yn flwyddyn y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(a)bwrsari gofal iechyd, neu
(b)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio).
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs mynediad graddedig carlam.
Eithriad 5
[F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]
Eithriad 6
Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddi).
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i flwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod os yw’r myfyriwr cymwys, fel rhan o’r cwrs, yn ymgymryd ag—
(a)cyfnod o brofiad gwaith gyda chorff yn y Deyrnas Unedig a bennir ym mharagraff (3), neu
(b)ymchwil di-dâl—
(i)mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu
(ii)y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o’r cwrs.
(3) Y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) yw—
(a)ysbyty;
(b)labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus;
(c)awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol sy’n arfer swyddogaeth neu’n cyflawni gweithgareddau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les;
(d)corff sy’n darparu gwasanaethau carchar neu wasanaethau prawf yn y Deyrnas Unedig;
(e)corff iechyd a restrir ym mharagraff (4).
(4) Y cyrff iechyd yw—
(a)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) neu adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2);
(b)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(c)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
(d)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(e)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);
(f)y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(4);
(g)yr Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 12 o’r Ddeddf honno;
(h)ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol (a enwyd gynt yn ymddiriedolaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(5);
(i)asiantaeth iechyd a gofal cymdeithasol arbennig (a enwyd gynt yn asiantaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol arbennig) a sefydlwyd o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) (Gogledd Iwerddon) 1990(6);
(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu grŵp comisiynu clinigol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno(7);
(k)y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012(8);
(l)y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 44 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 7
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 44 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
45. Yn Nhabl 3, mae Colofn 2 yn nodi swm y grant sylfaenol sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Y grant sylfaenol sydd ar gael |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £1,000 ar gyfer cwrs llawnamser £1,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser |
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 45 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
46.—(1) Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
(2) Pan—
(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu
(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
(3) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—
(a)£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;
(b)£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;
(c)£5.750 o incwm aelwyd [F2sy’n fwy na £18,370] pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.
(4) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamser | Colofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £5,885 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £9,124 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £7,100 |
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 46(3)(c) wedi eu mewnosod (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 46 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
47.—(1) Mae Tabl 5 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”) pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 2 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfatebol yng Ngholofn 1.
(2) Os—
(a)nad yw incwm aelwyd myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000, neu
(b)yw’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw’r uchafswm sydd ar gael wedi ei luosi â dwysedd astudio’r cwrs presennol.
(3) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000 ond yn llai na £59,200, cyfrifir swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel a ganlyn—
Cam 1
Gostwng uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael £1 am bob £6.84 o incwm aelwyd sy’n fwy na £25,000.
Cam 2
Lluosi canlyniad Cam 1 â dwysedd astudio’r cwrs presennol.
Y canlyniad yw swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy.
(4) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn [F3£59,200 neu ragor] , swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £5,000 |
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 47(4) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 9
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 47 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
48. Gweler Rhan 2 o Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 48 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
49. Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—
(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol,
(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(9), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac
(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu
(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989)(10) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 49 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
50.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael grant sylfaenol neu, yn ôl y digwydd, grant cynhaliaeth, yn bodloni un o’r amodau cymhwyso yn rheoliad 51—
(a)mae’r holl grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys, a
(b)mae swm o’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr hyd at yr uchafswm a bennir yn rheoliad 52,
i’w drin fel taliad cymorth arbennig.
(2) Mae taliad cymorth arbennig yn daliad a fwriedir er mwyn talu am—
(a)cost llyfrau ac offer;
(b)treuliau teithio;
(c)costau gofal plant,
mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 50 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
51.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni un o’r amodau a ganlyn—
Amod A
Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael cymhorthdal incwm, yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e)(11) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
Amod B
Caiff y myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael budd-dal tai, ei drin fel pe bai’n atebol i wneud taliadau mewn cysylltiad ag annedd a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(12).
Amod C
Mae’r myfyriwr cymwys, at ddibenion asesu hawlogaeth i gael credyd cynhwysol, yn atebol neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(13) i wneud taliadau mewn cysylltiad â llety y mae’r myfyriwr yn ei feddiannu fel ei gartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 51 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
52. Yn Nhabl 6, mae Colofn 2 yn nodi uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel taliad cymorth arbennig mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel rhan o daliad cymorth arbennig |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £4,161 ar gyfer cwrs llawnamser £5,000 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio ar gyfer cwrs rhan-amser |
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 52 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
2006 p. 41; mewnosodwyd adran 1H ac adran 11 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.
1989 p. 41; mewnosodwyd adran 14A gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).
1992 p. 4. Mae diwygiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ac mae’r adran wedi ei diddymu gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 3), adran 147 ac Atodlen 14, Rhan 1 yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2013/358 erthygl 9. Mae’r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi drwy reoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 1997/2197, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/2655, O.S. 2009/3152 ac O.S. 2013/2536.
Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ac mae’r adran wedi ei diddymu gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 3) , adran 147 ac Atodlen 14, Rhan 1 yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn O.S. 2013/358 erthygl 9. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 O.S. 2006/213 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2012/757, O.S. 2013/630, O.S. 2013/2070 ac O.S. 2017/901.