Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 12/03/2018.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
53. Mae benthyciad cynhaliaeth yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ar gyfer blwyddyn academaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 53 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
54. Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r myfyriwr cymwys yn 60 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b)na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c)na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel—
(a)pensaer tirwedd,
(b)dylunydd tirwedd,
(c)rheolwr tirwedd,
(d)cynllunydd tref, neu
(e)cynllunydd gwlad a thref.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 54 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
55.—(1) Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
Minws
Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46.
(2) Mae Tabl 7 yn nodi uchafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael mewn cysylltiad â myfyriwr llawnamser pan—
(a)bo Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r benthyciad cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 4 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)bo Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae’r uchafsymiau yng Ngholofn 4 yn gymwys iddo;
(c)bo Colofn 3 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(d)bo Colofn 4 yn pennu uchafswm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2 a 3.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, y categorïau o fyfyriwr yw—
Categori 1
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—
(a)blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, neu
(b)blwyddyn gyntaf o gwrs mynediad graddedig carlam
nad yw’n fyfyriwr Categori 2.
Categori 2
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—
(a)blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
(i)bwrsari gofal iechyd, neu
(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu
(b)blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
(4) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 56.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Categori o fyfyriwr | Colofn 3 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 4 Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
---|---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Categori 1 | Byw gartref | £6,650 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £10,250 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £8,000 | ||
Categori 2 | Byw gartref | £3,325 | |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 |
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 55 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
56.—(1) — Pan fo taliad cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr llawnamser o dan reoliad 50, swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw pa un bynnag yw’r mwyaf o—
(a)y swm a gyfrifir o dan reoliad 55(1), neu
(b)isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
(2) Yn Nhabl 8—
(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)mae Colofn 3 yn pennu isafswm y benthyciad sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr llawnamser pan fo cymorth arbennig yn daladwy |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £3,325 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 |
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 56 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
57.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan—
(a)bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a
(b)bo’n ofynnol i fyfyriwr cymwys ymgymryd â’r cwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos (neu ran o wythnos) y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â’r cwrs y tu hwnt i’r cyfnod o 30 wythnos a 3 diwrnod.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan—
(a)bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a
(b)bo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs am gyfnod o 45 wythnos neu ragor mewn unrhyw gyfnod parhaus o 52 wythnos.
(4) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos gyfan yn y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.
(5) Mae’r cynnydd yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r nifer mwyaf o wythnosau yn y cyfnod o 52 wythnos yn dod o’i mewn.
(6) Caiff uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys gael ei gynyddu o dan baragraffau (2) a (4) mewn perthynas â’r un flwyddyn academaidd.
(7) Yn Nhabl 9—
(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas â hi;
(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)mae Colofn 3 yn pennu’r swm wythnosol y mae swm y benthyciad sy’n daladwy i gynyddu yn ei ôl mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Colofn 1 Blwyddyn Academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Cynnydd wythnosol yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £80 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £153 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £120 |
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 57 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
58.—(1) Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).
Minws
Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.
(2) Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 58 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
59. Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 59 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
60. Pan—
(a)bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 59, neu
(b)bo swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,
caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 60 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: