xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 8LL+CBENTHYCIAD CYNHALIAETH

Benthyciad cynhaliaethLL+C

53.  Mae benthyciad cynhaliaeth yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ar gyfer blwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 53 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaethLL+C

54.  Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—

Eithriad 1

Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.

Eithriad 2

Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.

Eithriad 3

Mae’r myfyriwr cymwys yn 60 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.

Eithriad 4

[F1Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—

(a) na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu

(b) na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.]

F2...

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 54 wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/708), rhl. 8

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 54 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr llawnamserLL+C

55.—(1Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46.

(2Mae Tabl 7 yn nodi uchafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael mewn cysylltiad â myfyriwr llawnamser pan—

(a)bo Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r benthyciad cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 4 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)bo Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae’r uchafsymiau yng Ngholofn 4 yn gymwys iddo;

(c)bo Colofn 3 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(d)bo Colofn 4 yn pennu uchafswm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2 a 3.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, y categorïau o fyfyriwr yw—

Categori 1

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—

(a)blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, neu

(b)blwyddyn gyntaf o gwrs mynediad graddedig carlam

nad yw’n fyfyriwr Categori 2.

Categori 2

Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—

(a)blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—

(i)bwrsari gofal iechyd, neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban,

a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu

(b)blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).

(4Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 56.

Tabl 7

[F3Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Blwyddyn academaiddCategori o fyfyriwrLleoliad y myfyriwrUchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Categori 1Byw gartref£6,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,000
Categori 2Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Categori 1Byw gartref£6,840
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£10,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,225
Categori 2Byw gartref£3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Categori 1Byw gartref£7,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£8,810
Categori 2Byw gartref£3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Categori 1Byw gartref£7,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,350
Categori 2Byw gartref£3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,675]

Diwygiadau Testunol

F3Rhl. 55 Amnewidiwyd Tabl 7 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 27

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 55 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F4Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennigLL+C

56.(1) Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm—

(a)y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a

(b)y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.

Cam 2

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 3

Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8
[F5Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddLleoliad y myfyriwrSwm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Byw gartref£7,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£11,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Byw gartref£7,840

Byw oddi cartref, astudio yn Llundain

£11,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,225
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Byw gartref£8,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£12,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,810
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Byw gartref£8,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£12,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,350]

Cam 4

Pa un bynnag yw’r mwyaf o—

(a)y swm a nodir yng Ngham 3, neu

(b)symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,

yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.

Cam 5

Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.

Cam 6

Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3) Yn Nhabl 8A—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8A
[F6Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddLleoliad y myfyriwrIsafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwyy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Byw gartref£3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Byw gartref£3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Byw gartref£3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Byw gartref£3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,675]

(4) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.]

Diwygiadau Testunol

F5Rhl. 56 Amnewidiwyd Tabl 8 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S. sy'n diwygio) gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 28(a)

F6Rhl. 56 Amnewidiwyd Tabl 8A (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 28(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 56 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedigLL+C

57.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a

(b)bo’n ofynnol i fyfyriwr cymwys ymgymryd â’r cwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos (neu ran o wythnos) y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â’r cwrs y tu hwnt i’r cyfnod o 30 wythnos a 3 diwrnod.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan—

(a)bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a

(b)bo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs am gyfnod o 45 wythnos neu ragor mewn unrhyw gyfnod parhaus o 52 wythnos.

(4Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos gyfan yn y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.

(5Mae’r cynnydd yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r nifer mwyaf o wythnosau yn y cyfnod o 52 wythnos yn dod o’i mewn.

(6Caiff uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys gael ei gynyddu o dan baragraffau (2) a (4) mewn perthynas â’r un flwyddyn academaidd.

(7Yn Nhabl 9—

(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)mae Colofn 3 yn pennu’r swm wythnosol y mae swm y benthyciad sy’n daladwy i gynyddu yn ei ôl mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 9

[F7Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Blwyddyn academaiddLleoliad y myfyriwrCynnydd wythnosol yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019Byw gartref£80
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£153
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£120
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020Byw gartref£84
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£162
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£127
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021Byw gartref£86
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£167
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£131
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021Byw gartref£89
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£172
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£135]

Diwygiadau Testunol

F7Rhl. 57 Amnewidiwyd Tabl 9 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 29

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 57 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr rhan-amserLL+C

58.—(1Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—

Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).

Minws

Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.

(2Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.

Tabl 10

[F8Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddUchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019£5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020£5,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£6,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£6,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio]

[F9(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.]

Diwygiadau Testunol

F8Rhl. 58 Amnewidiwyd Tabl 10 (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 30

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 58 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F10Swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennigLL+C

58A.(1) Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.

Tabl 10A
[F11Colofn 1Colofn 2
Blwyddyn academaiddSwm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019£6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020£6,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021£7,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021£7,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio]

Cam 3

Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.

Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.]

Diwygiadau Testunol

F11Rhl. 58A Amnewidiwyd Tabl 10A (gyda chais yn unol â rheoliad 1(2) o O.S.) diwygio gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 31

Gwneud cais am fenthyciad cynhaliaeth sy’n llai na’r uchafswmLL+C

59.  Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 59 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cais pellach am fenthyciad cynhaliaeth hyd at yr uchafswmLL+C

60.  Pan—

(a)bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 59, neu

(b)bo swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,

caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 60 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)