RHAN 8BENTHYCIAD CYNHALIAETH
Benthyciad cynhaliaeth53
Mae benthyciad cynhaliaeth yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chostau byw ar gyfer blwyddyn academaidd.
Amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth54
Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o’r cwrs presennol oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor, oni bai—
a
bod y cwrs presennol yn gwrs rhan-amser, a
b
bod y myfyriwr cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar yn y flwyddyn academaidd o dan sylw.
Eithriad 2
Mae’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
Eithriad 3
Mae’r myfyriwr cymwys yn 60 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r Eithriad hwn yn gymwys pan—
a
bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
b
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
c
na fo M yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel—
a
pensaer tirwedd,
b
dylunydd tirwedd,
c
rheolwr tirwedd,
d
cynllunydd tref, neu
e
cynllunydd gwlad a thref.
Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr llawnamser55
1
Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
Minws
Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46.
2
Mae Tabl 7 yn nodi uchafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael mewn cysylltiad â myfyriwr llawnamser pan—
a
bo Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r benthyciad cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 4 yn gymwys mewn perthynas â hi;
b
bo Colofn 2 yn pennu’r categori o fyfyriwr y mae’r uchafsymiau yng Ngholofn 4 yn gymwys iddo;
c
bo Colofn 3 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
d
bo Colofn 4 yn pennu uchafswm y benthyciad sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1, 2 a 3.
3
At ddibenion y rheoliad hwn, y categorïau o fyfyriwr yw—
Categori 1
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—
a
blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, neu
b
blwyddyn gyntaf o gwrs mynediad graddedig carlam
nad yw’n fyfyriwr Categori 2.
Categori 2
Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd ag—
a
blwyddyn academaidd y mae myfyriwr yn gymwys i wneud cais mewn cysylltiad â hi am—
i
bwrsari gofal iechyd, neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban,
a gyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr (pa un a yw swm y cyfrifiad yn cyfateb i ddim ai peidio), neu
b
blwyddyn academaidd o gwrs rhyngosod pan fo swm cyfanredol y cyfnodau o astudio llawnamser y mae’r myfyriwr yn ymgymryd â hwy yn llai na 10 wythnos (oni bai ei bod yn flwyddyn y mae rheoliad 44(2) yn gymwys iddi).
4
Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 56.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Categori o fyfyriwr | Colofn 3 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 4 Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser |
---|---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Categori 1 | Byw gartref | £6,650 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £10,250 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £8,000 | ||
Categori 2 | Byw gartref | £3,325 | |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | ||
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 |
Swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy: myfyrwyr llawnamser y mae taliad cymorth arbennig yn daladwy iddynt56
1
— Pan fo taliad cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr llawnamser o dan reoliad 50, swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw pa un bynnag yw’r mwyaf o—
a
y swm a gyfrifir o dan reoliad 55(1), neu
b
isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.
2
Yn Nhabl 8—
a
mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;
b
mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
c
mae Colofn 3 yn pennu isafswm y benthyciad sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr llawnamser pan fo cymorth arbennig yn daladwy |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £3,325 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 |
Benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig57
1
Mae paragraff (2) yn gymwys pan—
a
bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a
b
bo’n ofynnol i fyfyriwr cymwys ymgymryd â’r cwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos (neu ran o wythnos) y mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â’r cwrs y tu hwnt i’r cyfnod o 30 wythnos a 3 diwrnod.
3
Mae paragraff (4) yn gymwys pan—
a
bo’r cwrs presennol yn gwrs llawnamser, a
b
bo myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs am gyfnod o 45 wythnos neu ragor mewn unrhyw gyfnod parhaus o 52 wythnos.
4
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr a gyfrifir o dan reoliad 55 neu, yn ôl y digwydd, 56 wedi ei gynyddu yn ôl y swm wythnosol a bennir yng Ngholofn 3 o Dabl 9 ar gyfer pob wythnos gyfan yn y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs.
5
Mae’r cynnydd yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r nifer mwyaf o wythnosau yn y cyfnod o 52 wythnos yn dod o’i mewn.
6
Caiff uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys gael ei gynyddu o dan baragraffau (2) a (4) mewn perthynas â’r un flwyddyn academaidd.
7
Yn Nhabl 9—
a
mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas â hi;
b
mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
c
mae Colofn 3 yn pennu’r swm wythnosol y mae swm y benthyciad sy’n daladwy i gynyddu yn ei ôl mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Colofn 1 Blwyddyn Academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Cynnydd wythnosol yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | Byw gartref | £80 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £153 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £120 |
Swm y benthyciad cynhaliaeth:myfyrwyr rhan-amser58
1
Pan fo cwrs presennol myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”), cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i’r myfyriwr (gweler Tabl 10).
Minws
Swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 47.
2
Yn Nhabl 10, mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae uchafswm y benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 2 ar gael mewn perthynas â hi.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 | £5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Gwneud cais am fenthyciad cynhaliaeth sy’n llai na’r uchafswm59
Caiff myfyriwr cymwys wneud cais o dan reoliad 32 i fenthyg rhan o swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
Cais pellach am fenthyciad cynhaliaeth hyd at yr uchafswm60
Pan—
a
bo myfyriwr cymwys yn gwneud cais am ran o’r benthyciad cynhaliaeth o dan reoliad 59, neu
b
bo swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth yn cael ei roi ar gael i fyfyriwr cymwys yn dilyn trosglwyddiad ac ailasesiad a wneir o dan Adran 5 o Bennod 2 o Ran 4,
caiff y myfyriwr wneud cais pellach o dan reoliad 32 am y balans sy’n weddill o’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.